Ein gweledigaeth
Ein gweledigaeth yw cyfrannu at gryfder busnes yng Nghymru drwy wyddor data, ac i ysbrydoli cwmnïau bach i integreiddio modelu, peirianneg a dadansoddi data i’w gwaith o ddydd i ddydd.
Ein hegwyddorion
- adeiladu ar y rhagoriaeth ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd a phartneriaethau strategol sy’n bodoli eisoes gyda byd diwydiant a’r sector cyhoeddus i gynnwys BBaChau
- cryfhau’r ecosystem sy’n ymwneud â defnyddio gwyddoniaeth data yng Nghymru i fynd i’r afael â’r bwlch yn y ddarpariaeth ar gyfer BBaChau i gynyddu ymwybyddiaeth, gallu a sgiliau gydag adnoddau cyfyngedig
- cynnig arbenigedd gwyddor data i gyd-ddatblygu atebion gyda chwmnïau drwy ymchwil a phrosiectau datblygu, gan gydweithio â chwmnïau, yn hytrach na chynnig gwasanaeth un ffordd neu ymgynghoriaeth.
Ymwybyddiaeth arloesedd data
Mae cael mynediad at ddata mawr yn arloesiad allweddol yn yr 21ain ganrif. Mae datblygiadau mewn technoleg yn golygu bod llawer o ddata bellach yn cael ei greu, ei storio a’i gyfathrebu ar raddfa na welwyd erioed o’r blaen, gan bob math o sefydliad ac ar draws yr holl sectorau.
Mae’r data hwn yn aml yn cofnodi nodweddion sefydliadau a gweithgareddau na chafodd eu recordio yn y gorffennol. Mewn busnes, gall ddadansoddi’r data hwn ddangos patrymau a nodweddion sy’n cynnig gwybodaeth newydd am gynnyrch, marchnad neu wasanaeth ar hyn o bryd neu yn y dyfodol. Gall hyn arwain at gynnydd mewn cynhyrchiant a chystadleurwydd.
Ein nod wrth lenwi bwlch yn ecosystem data presennol Cymru yw adeiladu ymwybyddiaeth, gallu a sgiliau gwyddor data yn systematig o fewn BBaChau yng Nghymru. Mae’n bosibl nad oes gan y busnesau hyn adnoddau ar yr un raddfa â’r sector cyhoeddus neu gwmnïau mawr i ‘dreialu’ ffyrdd newydd o weithio, neu fuddsoddi mewn trawsnewid busnes mewn modd nad yw wedi’i brofi, ar sail gwyddorau data.
Deall gwyddor data
Mae gwyddor data yn ymwneud ag integreiddio ystadegau a dysgu peiriant i arferion dyddiol diwydiant. Ni ddefnyddir ystadegau i ysgrifennu adroddiadau yn unig, ond cânt eu hintegreiddio i brosesau penderfynu, ac i'r broses o ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau.
Mae hyn yn galw am greu offer a chynhyrchion cyfrifiadurol. Mae gwyddor data yn dod â chyfuniad o ystadegau, arbenigedd busnes a chodio at ei gilydd.
Ein profiad
Mae ymchwilwyr gwyddor data wedi gweithio gydag ystod o gwmnïau gan gynnwys Admiral ar delemateg yswiriant, a gydag Airbus i ddatblygu cynhyrchion seibr-ddiogelwch y cwmni.
Bydd ein gwyddonwyr data yn cydweithio â chi i fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu eich busnes.