Astudio
Mae Danau Girang yn lleoliad delfrydol i astudio bywyd gwyllt ac effeithiau newid cynefin athropogenig ar fioamrywiaeth.

Mae ein cyrsiau'n cyfrannu at yr ymdrechion monitro a wneir yng Ngwarchodfa Bywyd Gwyllt Kinabatangan Isaf ac yn elwa ohonynt.
Gall myfyrwyr ddysgu am asesu a monitro bioamrywiaeth ac ar yr un pryd gyfrannu at y data tymor hir sy'n bwysig er mwyn deall dynameg a sefydlogrwydd coedwigoedd darniog yn y rhanbarth hwn.
Mae hyfforddiant mewn dulliau asesu bioamrywiaeth ar gyfer coed, infertebratau, ymlusgiaid ac amffibiaid, adar a mamaliaid ar gael drwy drefniant.
Gwybodaeth am lety, costau, iechyd, teithio a fisas.