Ymchwil
Mae colli a darnio cynefinoedd yn bygwth bioamrywiaeth Asia.
Er mwyn lliniaru colledion ar raddfa fawr, mae datblygu strategaethau cadwraeth effeithiol yn allweddol. Mae hyn yn gofyn am archwilio'r berthynas rhwng rhywogaethau a thirweddau'n drylwyr.

Nod yr ymchwil yn y ganolfan yw pennu'r gofynion ar lefel tirweddau sy'n allweddol er mwyn i rywogaethau trofannol barhau i fod yn hyfyw mewn tirweddau darniog iawn.
Rydym yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf gan gynnwys maglau camera, coleri GPS, a droniau i archwilio'r mecanweithiau goroesi y mae nifer o'r rhywogaethau pwysicaf yn eu defnyddio. Drwy'r wybodaeth rydym yn ei chaffael gallwn ddatblygu cynlluniau gweithredu ar gyfer rhywogaethau a chanllawiau rheoli tirweddau ar gyfer coedwigoedd trofannol darniog yr iseldir.
Ar ein tudalen Facebook mae'r lluniau a'r wybodaeth ddiweddaraf am ein hymwelwyr, ein hymchwil, ein halldeithiau a llawer o fywyd gwyllt!