Technegydd fferylliaeth cyn cofrestru a’r profiad o fod yn oruchwyliwr sy’n gyflogwr/goruchwyliwr addysgol yn y rhaglen addysg a hyfforddiant cychwynnol (IET) newydd
Rhwng 2020 a 2022, arweiniodd CUREMeDE y gwerthusiad o raglen technegwyr fferylliaeth amlsector cyn cofrestru a dreialwyd yng Nghymru.
Treialodd y cynllun peilot hwn ddau fodel i ddeall sut roedd hyfforddeion yn symud ar draws y tri sector fferylliaeth. Cafwyd canfyddiadau fydd yn llywio dyfodol y rhaglen, megis y graddau y mae'r rhaglen yn bodloni’r gofynion o ran cymwyseddau NVQ a phwysigrwydd cael staff cymorth sy’n ymroddedig.
Ers hynny, mae'r cwrs sy’n seiliedig ar gymwyseddau a mathau o wybodaeth wedi newid yn achos y carfanau a ddechreuodd yn 2022. Felly, bydd cam nesaf yr astudiaeth yn gwerthuso sut mae'r rhan sy’n seiliedig ar waith yn cyd-fynd â'r cwrs newydd hwn, a sut mae'r rhaglen yn paratoi hyfforddeion ar gyfer byd ymarfer. Bydd yr astudiaeth hon yn gwerthuso'r rhaglen hyfforddi technegwyr fferylliaeth newydd a bydd pedair carfan gan ddechrau ym mis Chwefror a mis Medi 2022 yn ogystal â mis Chwefror a mis Medi 2023.
Mae'r cam newydd hwn yn y gwerthusiad yn datblygu’r gwaith cynharach hwn ac yn ei ymestyn.
Prif enw cyswllt | Sophie Bartlett |
---|---|
Cyllidwr | Fferylliaeth Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW) |