Fferyllwyr Cyflawn: Canllaw i Gyflogwyr ar Gael y Gorau o Fferyllwyr Amlsector sydd Newydd Gymhwyso i Wella Gofal i Gleifion
Mae'r galw ar weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn cynyddu. Mae disgwyl cynyddol i fferyllwyr weithio mewn sawl lleoliad a darparu mwy o wasanaethau i gleifion.
Mewn ymateb i hyn, i gymhwyso’n fferyllydd cofrestredig yng Nghymru o 2021 ymlaen, rhaid i raddedigion fferylliaeth gwblhau blwyddyn hyfforddiant Sylfaen amlsector. Mae hyn yn cynnwys treulio amser mewn ysbytai, lleoliadau cymunedol a meddygfeydd, gan eu galluogi i weithio mewn unrhyw sector.
Yn draddodiadol, mae hyfforddiant a llwybrau gyrfa wedi canolbwyntio ar un sector yn unig. Mae hyfforddiant amlsector wedi'i dreialu gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a'i werthuso gennym ni. Roedd y canfyddiadau'n dangos manteision clir yr hyfforddiant ond roedd pryder yn gyffredinol ynghylch i ba raddau mae fferyllwyr amlsector wedi'u paratoi a’u hyfforddi i weithio a chyfrannu at y gwasanaeth. Bydd cyflwyno hyfforddiant amlsector ledled Cymru yn cynyddu pryderon o'r fath. Drwy gynnal adolygiad sydd wedi’i dargedu o’n data presennol gan fferyllwyr aml-sector sydd newydd gymhwyso (NQPs) a chyfnewid gwybodaeth â rhanddeiliaid allweddol, byddwn yn creu pecyn cymorth amlgyfrwng sy’n nodi sut y gall darpariaeth elwa ar sgiliau’r fferyllwyr hyn sydd wedi’u hyfforddi mewn sawl sector, a’r cymorth penodol y dylai cyflogwyr eu rhoi wrth iddynt bontio o fod o dan hyfforddiant i fod yn fferyllwyr cofrestredig.
Prif gyswllt | |
Ariannwr | Arloesedd i Bawb, Prifysgol Caerdydd |