Hyfforddiant cyn-cofrestru aml-sector i dechnegwyr fferyllfa yng Nghymru
Er mwyn cefnogi datblygiad gyrfaol technegwyr fferyllfeydd, mae Fferylliaeth Addysg a Gwella Iechyd Cymru (Fferylliaeth AaGIC) wedi paratoi rhaglen cyn-cofrestru aml-sector ar gyfer technegwyr fferyllfa.
Yn y gwerthusiad hwn, byddwn yn edrych ar ba mor dda mae’r rhaglen yn paratoi hyfforddeion ar gyfer gweithio yn y maes. Gan ganolbwyntio ar ddwy raglen beilot Fferylliaeth AaGIC, ein nod yw:
- Ceisio barn yr hyfforddeion ar sut maen nhw’n teimlo bod y rhaglen yn eu paratoi i fod yn dechnegwyr fferyllfa
- Ystyried safbwyntiau eu goruchwylwyr ar hyn o bryd (uwch-dechnegwyr fferyllfa) a rheolwyr llinell Byrddau Iechyd (eu haseswyr NVQ) ar ba mor barod yw’r hyfforddeion i weithio yn y maes.
Prif gyswllt | Alison Bullock |
---|---|
Cyllidwr | Fferylliaeth Addysg a Gwella Iechyd Cymru (Fferylliaeth AaGIC) |
An Evaluation of the Multi-Sector Pre-Registration Pharmacy Technician Programme in Wales (2020/21)
In this executive summary we present the key findings in our evaluation of the newly developed Health Education and Improvement Wales multi-sector training programme curriculum. Full report available on request.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.