Datblygu Sgiliau Fferyllwyr wrth Gynllunio Gweithlu: Gwerthusiad o Brosiect Cynllunio Gweithlu Fferyllol
Mae cynllunio gweithlu strategol wrth wraidd cyflwyno gwasanaethau gofal iechyd.
Nod Prif Fferyllwyr ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW) yw rhoi sgiliau cynllunio gweithlu i fferyllwyr er mwyn eu galluogi i gynllunio gwasanaethau’n well ar draws pob un o sectorau’r GIG.
Amcanion penodol yr astudiaeth hon yw ystyried ac adrodd am:
- a yw’r fferyllwyr sy’n cymryd rhan yn rhoi’r ymarfer cynllunio chwe-cham ar waith, a sut
- a oes effaith ganfyddadwy ar drawsnewid gwasanaethau fferylliaeth drwy ddefnyddio’r dull cynllunio gweithlu
- beth sydd angen ei newid i wella deilliannau
- sut gallai dysgu o’r enghraifft hon gael ei ddefnyddio gan grwpiau proffesiynol eraill.
Mae’r gwerthusiad hwn yn seiliedig ar ddata o gyfweliadau un-i-un a thrafodaethau grŵp ffocws.
Prif gyswllt | Alison Bullock |
---|---|
Cyllidwr | Fferylliaeth Addysg a Gwella Iechyd Cymru (Fferylliaeth HEIW) |