Rhaglen sylfaenol i fferyllwyr yng Nghymru
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0020/1729100/tablets-being-sorted.jpg?w=575&ar=16:9&q=80&auto=format)
Mae tîm o Aberdeen, wedi’i ariannu gan Addysg GIG yr Alban (NES), yn gwerthuso eu rhaglen hyfforddiant sylfaenol i fferyllwyr yn yr Alban.
Mae’r rhaglen hon wedi’i dylunio i roi ystod gyffredinol o sgiliau fferyllol craidd i fferyllwyr sydd newydd gymhwyso. Mae Cymru’n mabwysiadu’r un model (ac adnoddau) i gyflwyno rhaglen sylfaenol i fferyllwyr yng Nghymru. Rydym yn cydweithio â’r tîm o Aberdeen er mwyn gwerthuso rhaglen Cymru, gan ddilyn yr un protocol â’r un a ddefnyddir yn yr Alban.
Ein nod yw sefydlu:
- sut mae’r rhaglen yn cyfrannu at ddatblygiad fferyllwyr proffesiynol?
- ydy’r rhaglen yn diwallu anghenion y fferyllwyr a’u tiwtoriaid addysgiadol?
- ydy ymatebion i’r rhaglen yn newid dros amser?
- sut gellir gwella’r rhaglen?
Prif gyswllt | Alison Bullock |
---|---|
Cyllidwr | Fferylliaeth Addysg a Gwella Iechyd Cymru (Fferylliaeth HEIW) |