Hyfforddeion Deintyddol Craidd: Cymhelliant a Dewisiadau Gyrfaol a Chanfyddiadau o Hyfforddiant
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Mae Hyfforddiant Craidd Deintyddol (DCT) yn rhaglen ôl-raddedig dewisol y gall deintyddion ei dilyn er mwyn ehangu eu sgiliau.
Cynhaliwyd yr astudiaeth hon ar draws dau gam er mwyn deall cymhellion a dewisiadau gyrfaol yr hyfforddeion sy'n dilyn un, dwy neu dair blynedd o DCT a'u canfyddiadau a'u profiadau o'r rhaglen er mwyn llywio'r ffordd orau o ddatblygu a theilwra DCT yn y dyfodol.
Canlyniadau
Daethom i'r casgliad ei bod yn ymddangos bod y DCT yn fanteisiol i'r rhai sy'n bwriadu dilyn gyrfaoedd mewn ymarfer deintyddol cyffredinol ac i'r rhai sy'n anelu at ymarfer arbenigol, yn ogystal â'r rhai sy'n ansicr ynghylch eu llwybr yn y dyfodol. Er i hyfforddeion sôn am brofiadau hyfforddi cadarnhaol, yn enwedig o ran profiadau nad oeddent yn rhan o brofiad ymarferol a chefnogaeth gan oruchwylwyr addysgol, yn ôl pob golwg, mae angen gwella rhai meysydd.
Lead contact | Alison Bullock |
---|---|
Funder | Health Education England |
Start date | Chwefror 2019 |