Past research
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
A look at some of our past research projects:
Medical education and training
Addysgwyr proffesiynolion gofal iechyd Astudio gwerthoedd a gweithgareddau sy’n gyffredin (HEVAS)
Disgyblaeth yn ei hun yw addysg gofal iechyd.
Ein Haddysgwyr i Weithwyr Gofal Iechyd: Nod Astudiaeth Gwerthoedd a Gweithgareddau a Rennir (HEVAS) oedd pennu’r gwerthoedd a rennir a’r gweithgareddau allweddol sy’n berthnasol ac yn ddefnyddiol i’r holl weithwyr gofal iechyd.
Addysg Iechyd Lloegr ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru ariannodd y prosiect hwn.
Nod yr astudiaeth hon yw gwerthuso ‘model 1+2’ o hyfforddi meddygon teulu yng Nghymru.
Fel arfer, mae hyfforddiant arbenigol meddygon teulu yn cymryd tair blynedd, gyda hyfforddeion yn ymgymryd â 18 mis mewn ymarfer cyffredinol a 18 mis mewn ysbytai. Ym mis Awst 2020, cyflwynwyd model newydd o hyfforddiant arbenigol i feddygon teulu yng Nghymru, lle mae hyfforddeion yn ymgymryd â dwy flynedd o ymarfer cyffredinol ac un flwyddyn mewn ysbyty (model 1+2).
Drwy ddefnyddio data a gesglir gan grwpiau ffocws ac arolygon, nod ein hastudiaeth yw adrodd am:
- safbwyntiau hyfforddeion a hyfforddwyr o fanteision (ac anfanteision) treulio cyfran fwy o amser mewn ymarfer cyffredinol yn hytrach na lleoliadau ysbyty, yn eu tyb nhw
- safbwyntiau hyfforddeion a hyfforddwyr o leoliadau ysbyty a ffefrir, ac amseru profiadau gofal eilaidd o fewn cynllun hyfforddiant tair blynedd
- gwelliannau ymhellach y gellir eu gwneud i’r rhaglen er mwyn gwella dysgu a pharatoi ar gyfer ymarfer cyffredinol
Prif gyswllt | Alison Bullock |
---|---|
Cyllidwr | Fferylliaeth Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW) |
Dental education and training
Pharmacy education and training
Mewn cydweithrediad diweddar ag Addysg GIG yr Alban (NES) cynhaliodd ymchwilwyr CUREMeDE werthusiad o raglen newydd o 'hyfforddiant sylfaen fferylliaeth' ar gyfer cofrestryddion newydd sy'n gweithio yn y sector cymunedol.
Er bod cyfranogwyr yn gwerthfawrogi mewnbwn tiwtor yn fawr, un o'r rhwystrau allweddol i gwblhau'r rhaglen oedd diffyg amser wedi'i ddiogelu. Nid oes darpariaeth ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus yn rhan o gontract y GIG ar gyfer y rhai mewn fferylliaeth gymunedol. Er mwyn adeiladu ar y manteision a mynd i'r afael â'r rhwystrau hyn, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn cynnig tri model o amser gwarchodedig i gefnogi hunan-ddatblygiad cofrestryddion fferylliaeth gymunedol gyda'r bwriad y bydd y cofrestryddion yn defnyddio'r amser i feithrin cymwysterau i ddatblygu eu gyrfaoedd.
Bydd ein gwerthusiad yn adrodd ar ganlyniadau'r tri model, gan ddarparu tystiolaeth gyda'r bwriad y bydd ein canfyddiadau'n helpu i lywio opsiynau ar gyfer cefnogi'r newid i'r Safonau Addysg a Hyfforddiant Cychwynnol (GPhC) newydd ar gyfer fferyllwyr a thechnegwyr fferyllol.
Mae defnyddio fframwaith, y byddwn yn asesu ac yn cymharu pob model yn ei erbyn, yn amcanion penodol yw:
- Nodi manteision ac anfanteision canfyddedig neu ganlyniadau anfwriadol pob model
- Cymharu mewnbynnau a chanlyniadau pob model, gan gyfrif am gyd-destun a math o gyfranogwr
- Awgrymu argymhellion ar gyfer polisi yn y dyfodol
Prif gyswllt | Alison Bullock |
---|---|
Cyllidwr | Prifysgol Caerdydd |
Hyfforddiant fferylliaeth aml-sector cyn-cofrestru
Rydym wedi ymgymryd â chyfres o werthusiadau o hyfforddiant fferylliaeth cyn-cofrestru.
Dechreuodd y gwerthusiad cyntaf yn 2016/17 pan gyflwynodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) raglen hyfforddiant integredig cyn-cofrestru newydd. Roedd y rhaglen hon yn cynnig profiad mewn ysbytai a lleoliadau gofal cymunedol a sylfaenol, a chafodd ei gwerthuso gan Bethan Broad.
Roedd canlyniadau o'r gwerthusiad yn arddangos bod fferyllwyr a gynhaliodd y rhaglen aml-sector yn gwerthfawrogi'r profiad a byddent yn dewis yr opsiwn hwn eto. Serch hynny, roedd ganddynt argymhellion ar gyfer gwelliannau. O'r materion pwysicaf oedd strwythur y rhaglen hyfforddiant a chylchdroadau hyfforddeion o gwmpas ysbytai a lleoliadau gofal cymunedol a sylfaenol.
O ystyried yr adborth cadarnhaol ac adeiladol am y rhaglen aml-sector gan hyfforddeion, tiwtoriaid a rheolwyr llinell, mae lle i symud i hyfforddiant aml-sector model unigol; gyda chwricwlwm a model diffiniedig (o ran cylchdroadau rhwng lleoliadau). Mewn ymateb i hyn, datblygwyd cwricwlwm newydd ond nid yw wedi'i brofi eto. Mae dau Fwrdd Iechyd wedi'u recriwtio i dreialu'r cwricwlwm a bydd y ddau'n ei roi ar waith o dan model wahanol:
- Model 3 x 4 mis: bydd hyfforddeion yn cyflawni blociau 4 mis o gylchdroadau yn y tri sector, mewn trefn.
- Model 2(3 x 2 fis): bydd hyfforddeion yn cyflawni blociau 2 fis o gylchdroadau yn y tri sector yn ystod y chwe mis cyntaf ac yna'n ailymweld â phob sector ar gyfer ail gylchdro 2 fis o hyd yn ail hanner y flwyddyn.
Prif nod y llif gwerthuso presennol yw ystyried dichonoldeb y cwricwlwm hwn a ddatblygwyd yn ddiweddar ac addasrwydd y ddau fodel. Mae ein hamcanion penodol yn driphlyg:
- I geisio barn hyfforddeion ar y ddau fodel, a barn eu tiwtoriaid ar ddichonoldeb cyflawni canlyniadau'r cwricwlwm a pha mor dda y mae'r hyfforddeion wedi paratoi ar gyfer ymarfer (h.y. a yw'r cwricwlwm yn addas at y diben?).
- I gymharu canfyddiadau o'r ddau fodel, gan nodi a oes well gan hyfforddeion un strwythur na'r llall a/neu yw un strwythur yn hwyluso'r gwaith o gyflawni'r canlyniadau arfaethedig yn well.
- I gymharu'r canlyniadau â chanfyddiadau o wahanol garfanau.
Prif gyswllt | Alison Bullock |
---|---|
Cyllidwr | Fferylliaeth Addysg a Gwella Iechyd Cymru (Fferylliaeth HEIW) |
Cefnogi integreiddio fferyllwyr i'r cymysgedd o sgiliau gofal sylfaenol
Mae yna brinder meddygon teulu ac mae nyrsys practis yn gadael meddygfeydd hefyd. Mae hyn yn arwain at system gofal sylfaenol sy'n ei chael hi'n anodd cwrdd â phwysau ychwanegol sy'n codi o boblogaeth sy'n heneiddio â chyflyrau cronig cynyddol. Un strategaeth i fynd i'r afael â'r her hon yw integreiddio fferyllwyr i’r gymysgedd o sgiliau mewn meddygfeydd teulu.
Mae ymchwil ddiweddar a gynhaliwyd gan dîm CUREMeDE (y Gwerthusiad o Rhaglen Cyn Cofrestru Aml-sector ar gyfer Fferyllwyr a Gwerthuso Rhaglen Hyfforddi Pontio ar gyfer Fferyllwyr sy'n Symud i Leoliadau Meddygfeydd Teulu) wedi tynnu sylw at y fantais o hyfforddi fferyllwyr yn ffurfiol mewn meddygfeydd. Fodd bynnag, nid oes gan dimau meddygfeydd ddealltwriaeth o rôl y fferyllydd a'u cwmpas ymarfer.
Er mwyn mynd i'r afael â'r angen hwn, rydym yn cynnal prosiect newydd a fydd yn rhoi cipolwg ar yr astudiaethau blaenorol hyn o fferyllwyr a'u hyfforddwyr, ac yn cydweithio ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) i nodi technegau effeithiol ar gyfer integreiddio fferyllwyr yn llwyddiannus i'r cymysgedd sgiliau mewn meddygfeydd.
Drwy ddigwyddiadau cyfnewid gwybodaeth gyda thimau mewn meddygfeydd amrywiol, byddwn yn dylunio, creu a lledaenu pecyn cymorth aml-gyfrwng. Cynlluniwyd hwn i gynyddu parodrwydd timau meddygfeydd i integreiddio fferyllwyr yn eu cymysgedd sgiliau ac yn cyd-fynd â pharodrwydd fferyllwyr sy'n dod i mewn i'r amgylchedd hwn. Bydd y pecyn cymorth hwn yn cael ei ddosbarthu'n eang i randdeiliaid a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau trwy nifer o ddigwyddiadau ffurfiol.
Rhagwelir y byddwn nid yn unig yn cynyddu parodrwydd ymhlith rhanddeiliaid perthnasol, ond yn y tymor hwy, bydd ein gweithgareddau'n helpu tuag at leihau pwysau ar dimau mewn meddygfeydd. Bydd hyn yn galluogi gwell defnydd o'r gymysgedd sgiliau mewn meddygfeydd ac yn gwella'r gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig.
Prif gyswllt | Alison Bullock |
---|---|
Cyllidwr | Arloesedd i Bawb, Prifysgol Caerdydd |
Mae Fferylliaeth Addysg a Gwella Iechyd Cymru (Fferylliaeth AaGIC) wedi creu rhaglen hyfforddiant newydd i gefnogi fferyllwyr sy'n symud i weithio mewn lleoliad meddyg teulu.
Nod y fenter yw rhoi cefnogaeth bwrpasol i'r fferyllwyr hyn sy'n ymgymryd â'r rolau hyn gyda phrofiad blaenorol amrywiol mewn lleoliadau gwahanol. O ganlyniad, mae eu hanghenion cymorth yn amrywio.
Bydd y rhaglen bontio'n cael ei chynnal dros gyfnod o 12 mis ac mae'n rhoi 24 diwrnod o gefnogaeth gan diwtor i bob fferyllydd. Bydd y tiwtor yn fferyllydd mewn meddygfa profiadol sy'n gymwys i fod yn diwtor.
Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar y fframwaith cymhwysedd ar gyfer fferyllwyr sy'n gweithio mewn meddygfeydd, a gymeradwywyd gan y Gymdeithas Fferyllol Brenhinol. Bydd y fferyllwyr ar y cynllun hwn yn cyflawni hunan-asesiad dan y fframwaith cymhwysedd yn ystod mis 3, 6 a 12, a bydd hyn yn cael ei ddefnyddio i lywio eu hanghenion hyfforddiant.
Ymhlith y gweithgareddau eraill mae treulio amser yn fferyllfa'r tiwtor, a thrafod gyda'r tiwtor meddyg teulu penodol. Defnyddir e-bortffolio i ddogfennu'r hunan-asesiadau, adborth ar sail gweithle gan adborth 360-gradd ac er mwyn cofnodi eu tasgau a sgiliau.
Nodau
Prif nod y gwerthusiad hwn yw gwerthuso'r rhaglen hyfforddiant pontio, gan nodi cryfderau a meysydd i'w gwella, ac adnabod os yw'n helpu fferyllwyr i baratoi ar gyfer rôl mewn meddygfa, a sut.
Dyma'r amcanion penodol:
- nodi cymhellion y cyfranogwyr dros symud i'r lleoliad newydd a'u targedau ar gyfer y dyfodol.
- dogfennu anghenion dysgu pob cyfranogwr, gan nodi'r elfennau cyffredin a'r gwahaniaethau.
- archwilio barn cyfranogwyr am y gefnogaeth gan diwtoriaid, yr e-bortffolio a gweithgareddau addysgol eraill i weld a yw'r rhain yn mynd i'r afael â'r anghenion dysgu.
- ceisio barn tiwtoriaid y fferyllwyr am y rhaglen, ei chryfderau a'i chyfyngiadau ac unrhyw anghenion datblygu allai fod ganddynt ar gyfer y rôl.
Prif gyswllt | Alison Bullock |
---|---|
Cyllidwr | Fferylliaeth Addysg a Gwella Iechyd Cymru (Fferylliaeth AaGIC) |
Mae'r galw ar weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn cynyddu. Mae disgwyl cynyddol i fferyllwyr weithio mewn sawl lleoliad a darparu mwy o wasanaethau i gleifion.
Mewn ymateb i hyn, i gymhwyso’n fferyllydd cofrestredig yng Nghymru o 2021 ymlaen, rhaid i raddedigion fferylliaeth gwblhau blwyddyn hyfforddiant Sylfaen amlsector. Mae hyn yn cynnwys treulio amser mewn ysbytai, lleoliadau cymunedol a meddygfeydd, gan eu galluogi i weithio mewn unrhyw sector.
Yn draddodiadol, mae hyfforddiant a llwybrau gyrfa wedi canolbwyntio ar un sector yn unig. Mae hyfforddiant amlsector wedi'i dreialu gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a'i werthuso gennym ni. Roedd y canfyddiadau'n dangos manteision clir yr hyfforddiant ond roedd pryder yn gyffredinol ynghylch i ba raddau mae fferyllwyr amlsector wedi'u paratoi a’u hyfforddi i weithio a chyfrannu at y gwasanaeth. Bydd cyflwyno hyfforddiant amlsector ledled Cymru yn cynyddu pryderon o'r fath. Drwy gynnal adolygiad sydd wedi’i dargedu o’n data presennol gan fferyllwyr aml-sector sydd newydd gymhwyso (NQPs) a chyfnewid gwybodaeth â rhanddeiliaid allweddol, byddwn yn creu pecyn cymorth amlgyfrwng sy’n nodi sut y gall darpariaeth elwa ar sgiliau’r fferyllwyr hyn sydd wedi’u hyfforddi mewn sawl sector, a’r cymorth penodol y dylai cyflogwyr eu rhoi wrth iddynt bontio o fod o dan hyfforddiant i fod yn fferyllwyr cofrestredig.
Prif gyswllt | |
Ariannwr | Arloesedd i Bawb, Prifysgol Caerdydd |