Yr hyn rydych chi wedi'i gyflawni yn ystod y flwyddyn ddiwethaf!
Sut rydych chi wedi helpu i sicrhau newid ar y campws
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae ein cwsmeriaid wedi gwneud gwahaniaeth mawr trwy ddewis ailddefnyddio, ailgylchu'n gywir a chefnogi cynhyrchion gwyrddach ledled y campws. Gadewch i ni edrych ar yr hyn rydych chi wedi'n helpu ni i'w gyflawni, a sut gallwn ni wneud hyd yn oed mwy gyda'n gilydd.
Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae cwsmeriaid sydd wedi dod â’u cwpanau amldro eu hunain i’n caffis wedi ein helpu i arbed:
- 81kg o blastig
- 231.88kg o bren
- 2,017kg o allyriadau CO2e
I roi hynny mewn persbectif, mae hynny’r un peth â gyrru 10,506 milltir mewn car petrol. Dychmygwch yrru o Gaerdydd i Sydney, Awstralia, gan ddargyfeirio drwy Ewrop, Asia ac i lawr drwy Indonesia!
Nawr, gadewch i ni ddyblu hynny ac anelu at deithio adref hefyd - ond ni allwn ni wneud hyn heb eich help chi.
Hyd yn hyn yn ystod y flwyddyn academaidd hon, rydyn ni wedi sylwi bod nifer ein cwsmeriaid sy'n dod â'u cwpanau eu hunain wedi gostwng. Y llynedd, roedd 34% o'n cwsmeriaid yn defnyddio cwpanau y gellir eu hailddefnyddio, ond bellach dim ond 32% sy’n eu defnyddio. Felly os ydych chi wedi dechrau defnyddio cwpanau tafladwy eto, mae'n bryd mynd yn ôl ar y trywydd iawn.
Oeddech chi'n gwybod bod yn rhaid taflu POB cwpan diodydd poeth tafladwy i finiau wastraff cyffredinol?
Ni waeth pa mor eco-gyfeillgar y maen nhw’n edrych, mae gan bob cwpan tafladwy o siop goffi wahanol ddeunydd pacio, gyda haenau o gardbord a phlastig, sy'n aml wedi'u halogi gan fwyd, sy’n golygu nad oes modd eu hailgylchu yn union fel eich bocsys pizza a byrgyr.
Cymerwch gamau nawr! Dewch â'ch cwpan amldro eich hun er mwyn helpu i leihau eich effaith ar yr amgylchedd. Heb gael un eto? Rydyn ni’n ymestyn ein cynnig i gael KeepCup am hanner y pris tan ddiwedd mis Mai 2025 i’ch helpu i fynd ar y trywydd iawn.
🥤 Mae hynny'n golygu y gallwch chi gael KeepCup Prifysgol Caerdydd am £4.50 yn unig tan ddiwedd mis Mai!🥤
Beth arall ydyn ni wedi'i wneud?
Yn 2018, addawodd Prifysgol Caerdydd i gael gwared ar blastig untro o’r campws ac mae CUFoods wedi bod yn gweithio’n galed i leihau’r pecynnau plastig yn ein caffis a’n bwytai yn ogystal ag y tu mewn i’n ceginau.
Yn 2018, roedd 87% o ddiodydd yn ein hoergelloedd mewn pecynnau plastig. Erbyn 2025, rydyn ni wedi lleihau hynny i 22% yn unig!
Dyma sut y gwnaethon ni gyflawni hyn:
- Cynnig dŵr tap am ddim ym mhob un o’n safleoedd er mwyn i chi allu ail-lenwi’ch poteli
- Newid o boteli plastig i ganiau a gwydr lle bynnag y bo modd, gan gynnwys cyflwyno diodydd Masnach Deg megis Karma a LemonAid
- Dewis cynhyrchion plastig wedi'u gwneud o blastig wedi'i ailgylchu pan nad oes dewisiadau eraill ar gael eto
O ran pecynnu, maes allweddol arall lle gallwch chi wneud gwahaniaeth mawr yw ailgylchu'n gywir. Oeddech chi'n gwybod os ydych chi'n rhoi'r pecyn anghywir yn y bin anghywir ei fod yn halogi'r bag ailgylchu cyfan? Mae hynny'n golygu os bydd can yn mynd i'r bin ailgylchu plastig yn ddamweiniol, efallai y bydd yn rhaid i'r bag cyfan fynd i wastraff cyffredinol.
Dyna pam ei bod mor bwysig defnyddio'r biniau'n gywir - felly pa ddeunydd pacio sy'n mynd i ble?