Ewch i’r prif gynnwys

Fe enillon ni yng Ngwobrau Gŵn Gwyrdd 2024!

Yng nghategori Iechyd, Bwyd a Diod ar y Campws.

Amgylchedd caffi cynaliadwy

Fe wnaeth 133 o brosiectau o 83 o sefydliadau gyrraedd rhestr fer Gwobrau’r Gŵn Gwyrdd eleni!

Dyna pam mae'n anrhydedd i ni fod wedi ennill gwobr yng nghategori Iechyd, Bwyd a Diod ar y Campws ar gyfer ein caffi bwyd llysieuol, Green Shoots.

Fydden ni ddim wedi gallu ei wneud hebddoch chi. Pam? Roedd yr holl welliannau a wnaethon ni i Green Shoots Café yn seiliedig ar adborth gan fyfyrwyr a staff.

Beth wnaethon ni?

Fe wnaethon ni newid ein bwydlenni er gwell

  • Gyda 68% o'n cwsmeriaid yn gofyn am opsiynau iach a llysieuol ar y fwydlen, fe wnaethon ni gyflwyno bwydlenni figan a llysieuol yn unig, gan gynnwys bwydydd grawn cyflawn, hadau a chorbys i hyrwyddo bwyta'n iach.
  • Fe wnaethon ni greu rhagor o fwyd-i-fynd mewnol, gan ein galluogi i reoli cost, cynhwysion a maeth y bwyd yn well wrth sicrhau blas o ansawdd uchel.

Cyflwyno bwyta cymunedol

  • Daeth y Clybiau Swper Misol yn boblogaidd iawn, gyda’n tîm yn gweini dros 700 o brydau bwyd 3 chwrs llysieuol am ddim bob blwyddyn. Mae'r rhain wedi galluogi myfyrwyr i ddod at ei gilydd i fwynhau pryd o fwyd cynaliadwy a blasus wrth fynd i'r afael â chostau byw.
  • Wrth siarad am gostau byw, mae 'Bwyd Twym Am Geiniog a Dimai' wedi galluogi myfyrwyr a staff i gael pryd o fwyd poeth, maethlon ac iach bob wythnos trwy gynnig cinio llysieuol am £3 yn unig, a hynny wedi'i weini yn eu cynwysyddion y gellir eu hailddefnyddio.

Post wedi’i rannu gan CUFoods (@cufoods)


Blaenoriaethu bwyd lleol a thymhorol

  • Diolch i 71% o’r rhai a ymatebodd i’r arolwg, daethy trelar bwyd Fan Hapus â blas o Gymru i’r campws, gan ddathlu bwyd a chynhwysion tymhorol a chefnogi’r gymuned leol.
  • Dechreuon ni weithio gyda Castell Howell, sef busnes teuluol sydd wedi tyfu i fod yn brif gyfanwerthwr gwasanaeth bwyd annibynnol Cymru sy’n rhannu’r un gwerthoedd cynaliadwy â ni.

Rydych chi wedi rhoi eich adborth, rydyn ni wedi gwrando - gyda'n gilydd gallwn ni greu newid anhygoel.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am ein gwobr!

Latest articles

Sut i gymryd rhan ym Masnach Deg

6 cham bach y gallwch chi eu cymryd sy'n cael effaith fawr

Talu llai am bob llymaid gyda KeepCup

Get rewarded for being sustainable

Oeddech chi'n gwybod ein bod ni'n brifysgol Masnach Deg?

From your morning cup of tea to your lunch-time banana