Dewisiadau cynaliadwy o ran bwyd a diod ar y campws
Oeddech chi'n gwybod?
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0012/2891982/Sustainable-food-and-drink-P1230412.jpg?w=1170&ar=16:9)
Mae’r hyn sydd yn eich cwpan neu ar eich plât yn bwysig i ni. Dyna pam rydyn ni’n rhoi cymaint o bwyslais ar gynnig dewisiadau cynaliadwy o ran bwyd a diod.
O ble daw ein bwyd
Rydym wedi ymrwymo i gynnig bwydlenni tymhorol ac iach i chi bob dydd. Wyau buarth yw’r holl wyau rydyn ni'n eu defnyddio (rydym yn falch o feddu ar y Good Egg Award). Ar ben hynny, llaeth Prydeinig rydym ni’n ei ddefnyddio bob amser, ac mae dewisiadau eraill di-laeth ar gael ar draws y campws.
Fel mater o drefn, cig Tractor Coch yw ein holl gig - sy'n golygu ei fod wedi'i gynhyrchu i'r safon uchaf ac yn 100% Prydeinig - ac rydym yn defnyddio cig Cymreig lleol lle bynnag y bo modd. Gan nad yw’r cynnyrch yn teithio mor bell, rydyn ni'n gwybod ein bod ni'n lleihau allyriadau yn sylweddol o ran trafnidiaeth ac yn cyflenwi cynhwysion o'r safon uchaf.
A oes pysgod ar eich plât? Dim ond pysgod o ffynonellau cynaliadwy rydyn ni'n eu defnyddio, felly ni fydd y rhywogaethau sydd wedi'u nodi fel y rhai sydd 'dan y perygl mwyaf' gan y Gymdeithas Cadwraeth Forol, yn dod yn agos at eich plât.
Heb sôn am ein hystod amrywiol o gynnyrch Masnach Deg sy’n gwneud yn siŵr bod prisiau teg yn cael eu talu i bob cynhyrchydd.
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0007/2891986/Sustainable-food-and-drink-P1230776.jpg?w=1170&ar=16:9)
Beth rydym yn ei wneud er lles y blaned
Gan weithio gyda Bwydlenni Newid, ein nod bob amser yw lleihau ein hôl troed carbon a chael ein cynnyrch mewn ffyrdd cynaliadwy.
Yn ôl CleanChoice Energy, amaethyddiaeth anifeiliaid sy’n gyfrifol am 18% o allyriadau nwyon tŷ gwydr (sy’n fwy na'r holl allyriadau sy’n deillio o drafnidiaeth)! Dyna pam mae mwy o brydau sy’n seiliedig ar blanhigion ar ein bwydlenni, gan gynnwys ein caffi Green Shoots sy’n gwerthu cynnyrch figan a llysieuol yn unig.
Ar ben hynny, rydym wedi cyflwyno cynllun cwpanau amldro sydd eisoes wedi golygu bod 51% yn llai o wastraff o ganlyniad i gwpanau untro. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dod â chwpan amldro pan fyddwch yn cael diodydd poeth yn ein caffis a byddwch chi’n arbed 35c bob tro ac yn helpu'r blaned - arbed arian a’r blaned ar yr un pryd.
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0010/2891980/Sustainable-food-and-drink-P1230354.jpg?w=1170&ar=16:9)
Ein hymdrechion i leihau gwastraff bwyd
Yn ôl Guardians of Grub, pe byddai gwastraff bwyd yn wlad, byddai yn y trydydd safle ar dabl yr allyrwyr mwyaf o nwyon tŷ gwydr. Felly, rydym yn mynd i'r afael â hyn ym mhob rhan o’r campws - o'n ceginau i'ch bwyd dros ben.
Mae contractwyr gwastraff allanol yn compostio ein holl wastraff bwyd fel nad yw'n mynd i safleoedd tirlenwi, ac mae hyd yn oed ein olew cegin dros ben yn cael ei ailgylchu'n fiodanwydd ar gyfer cerbydau dosbarthu. Pa mor wych yw hyn?
Gallwch chi ymuno â'r frwydr hefyd. Oes gennych chi'r ap Too Good To Go? Defnyddiwch hwn i gael bwyd dros ben am bris gostyngol o'n caffis a'n bwytai i ymuno â'r frwydr. Neu, ydych chi’n hoffi coffi? Ewch â rhywfaint o’n gwaddodion coffi ail law adref ar gyfer planhigion y tŷ neu ddibenion gofal croen.
Yma, nid rhywbeth ffasiynol yn unig yw cynaliadwyedd - mae'n rhan o bopeth a wnawn. Felly, gallwch chi fod yn dawel eich meddwl bod yr hyn sydd ar eich plât yn dda i chi, ac i'r blaned.
Edrychwch ar ein Gwobr Green Gown 2024!
Awydd cael rhagor o wybodaeth?
Dilynwch ni ar Instagram @CUFoods