Ewch i’r prif gynnwys

Arbed arian gyda Bwyd Twym ar Gyllideb Geiniog a Dimai

Y cynnig cinio poeth am £3 y mae angen i chi wybod amdano

Rydyn ni’n gwybod pa mor anodd y mae’n gallu bod i gydbwyso bywyd yn y brifysgol wrth gadw golwg ar eich arian yn y cyfrif banc, ond nid yw bod â chyllideb yn golygu bod yn rhaid i chi golli allan ar bryd o fwyd poeth, blasus sy’n eich llenwi chi.

Beth yw Bwyd Twym ar Gyllideb Geiniog a Dimai?

Mae wedi’i gynllunio i’ch helpu i arbed arian ac achub y blaned ar yr un pryd. Bob dydd Mawrth yng ngardd Caffi Green Shoots, gallwch chi gael pryd o fwyd poeth am £3. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dod â'ch bocs bwyd amldro eich hun a’ch cerdyn adnabod myfyriwr.

Bwyd da, pris isel, a llai o wastraff – mae pawb ar eu hennill! Dyma sut mae'n gweithio:

Ble: Gardd Caffi Green Shoots

Pryd? Bob dydd Mawrth, o 11am nes bod popeth wedi’i werthu

Faint?

  • £3 os ydych chi’n dod â'ch bocs bwyd amldro eich hun a’ch cerdyn adnabod myfyriwr
  • £3.60 os byddwch chi’n anghofio dod â’ch cerdyn adnabod myfyriwr
  • +50c os bydd angen bocs bwyd tafladwy arnoch chi

Y cyntaf i’r felin fydd hi, a phan fydd y bwyd wedi mynd, dyna ni! Felly, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n galw draw yn gynnar i gael eich pryd cyn i bopeth werthu allan.

Rhagor o wybodaeth am ein opsiynau bwyd a diod am bris rhesymol yma.

Latest articles

Dewch i nôl gwaddodion coffi ar gyfer eich gardd

Gwaddodion coffi yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr sy’n hoffi garddio

Ffynhonnau dŵr ar y campws

Gweithio gyda Refill Wales i leihau’r defnydd o blastig untro

Arbed arian gyda Bwyd Twym ar Gyllideb Geiniog a Dimai

Y cynnig cinio poeth am £3 y mae angen i chi wybod amdano

Dewch draw i’n marchnad ffermwyr dros dro

Cefnogwch fusnesau lleol a mynnwch ddantaith