Ewch i’r prif gynnwys

Talu llai am bob llymaid gyda KeepCup

Gwobr am gynaliadwyedd

Chwilio am ffordd hawdd o arbed arian a helpu'r blaned? Defnyddiwch KeepCup neu gwpan amldro ar y campws a mwynhau hyd at 35c oddi ar bob diod boeth ar draws CUFoods, Paned yn Sbarc ac yn Nghaffi Green Shoots drwy gydol y flwyddyn!

Gyda gostyngiadau a gwobrau teyrngarwch ar ac oddi ar y campws, does erioed wedi bod amser gwell i gefnu ar gwpanau untro a dechrau ailddefnyddio.

Fe synnwch chi faint y gallwch chi ei arbed:

  • 1 ddiod boeth y dydd = arbed £1.75 yr wythnos
  • 2 ddiod poeth y dydd = £3.50 yr wythnos
  • 10fed ddiod AM DDIM gyda'r ap CUFoods 

Gyda'r arbedion hyn, mae eich KeepCup yn talu am ei hun i bob bwrpas. Hefyd, rydych chi'n helpu i leihau gwastraff gyda phob paned.

Yn ystod mis Mawrth, gallwch chi hyd yn oed gael un ar ostyngiad o 50%!

Mae prynu KeepCup yn fuddsoddiad gwerth chweil. Heb eich argyhoeddi? Dyma dri rheswm MAWR dros wneud y newid heddiw.

Prynwch un heddiw yn unrhyw un o'n caffis i gael eich diod boeth gyntaf AM DDIM a dechrau arbed.

Latest articles

Yr hyn rydych chi wedi'i gyflawni yn ystod y flwyddyn ddiwethaf!

Sut rydych chi wedi helpu i sicrhau newid ar y campws

Bwydlen Caffi Green Shoots

Ein caffi figanaidd, llysieuol a bwyd sy'n seiliedig ar blanhigion.

Bwydlen Caffi Green Shoots

Ein caffi figanaidd, llysieuol a bwyd sy'n seiliedig ar blanhigion.