Bwydlen Caffi Green Shoots
Caffi bywiog yng nghanol Sbarc | Spark
Rydyn ni’n falch o weini coffi ffres o ffynonellau moesegol, smwddis blasus, a choffi iâ i'ch cadw'n llawn egni drwy gydol y dydd. Dechreuwch eich bore gyda’n dewis o deisennau crwst neu mwynhewch frechdan gartref, panini, neu salad deli ffres i ginio. Mae ein bwydlen bwyd poeth dyddiol yn cynnig opsiynau blasus wedi’u paratoi’n ffres, a pheidiwch ag anghofio sbwylio eich hun drwy gael un o’n dewis eang o gacennau a byrbrydau.
Awydd rhoi cynnig ar rywbeth newydd? Mae ein bwydlen bwyd poeth yn newid yn ddyddiol. Gweler y bwydlen yn Paned i weld yr opsiynau newydd bob dydd.
Cynnyrch
Mae'r holl fwyd yn cael ei wneud yn ffres bob bore yn ein ceginau gan ddefnyddio cynnyrch ffres. Mae'r bwydlenni hyn yn destun newid i adlewyrchu argaeledd tymhorol gan ein cyflenwyr.
Gofynion dietegol
Os oes gennych unrhyw ofynion dietegol a/neu alergenau, gwnewch yn siŵr eich bod yn siarad ag aelod o'r tîm wrth archebu.
Bwydlen wythnosol
Neidio i: Dydd Llun | Dydd Mawrth | Dydd Mercher | Dydd Iau | Dydd Gwener