Bydd ein cogyddion a’n baristas yn cymryd rhan yng nghystadlaethau TUCO 2025

Dyma oedd gan gystadleuwyr y llynedd i'w ddweud
Bydd TUCO – Sefydliad Arlwywyr y Prifysgolion – yn cynnal cyfres o gystadleuaethau proffesiynol bob blwyddyn pan fydd staff ceginau a chaffis prifysgolion yn brwydro yn erbyn ei gilydd mewn heriau dwys sy’n gofyn am gryn egni. Meddyliwch am MasterChef, ond rhwng y prifysgolion.
Am flwyddyn arall yn olynol, bydd ein tîm yng nghanol y miri, gan ddangos rhuddin Prifysgol Caerdydd i bawb. Bydd y barista Imma a’r cogydd Angeline yn ailgydio yn y cystadleuaethau, gan ddangos eu sgiliau ac yn herio eu hunain unwaith eto.
Dyma beth oedd gan gystadleuwyr Tîm Bwyd Prifysgol Caerdydd i’w ddweud am eu profiad y llynedd…
Imma: Cystadleuaeth y Baristas ☕️

“Rwy’n credu ei bod yn bwysig gwthio ffiniau cyfforddusrwydd rhywun er mwyn dod o hyd i gyfleoedd newydd, boed y rheini’n dda neu’n ddrwg, bydd bob amser rywbeth i’w ddysgu!
Roedd paratoi ar gyfer y gystadleuaeth yn waith caled. Treuliais i lawer o benwythnosau yn hyfforddi'n galed gan fy mod i'n hoffi bod yn gwbl barod. Unwaith imi ddechrau paratoi, hedfanodd yr amser heibio heb imi sylwi hyd yn oed! Ces i gefnogaeth y teulu, ffrindiau, cydweithwyr a chleientiaid, sef ymdrech ar y cyd gan bawb. Yr unig anfantais oedd nad o’n i’n gallu cysgu'n dda am wythnosau oherwydd yr holl gaffein ro’n i'n ei yfed!”

“Daeth syniad fy niod arbennig i’r meddwl ar ôl rhywfaint o ymchwil wnes i ar-lein. Ro’n i eisiau rhywbeth oedd yn gysylltiedig â’r rhanbarth oedd yn cynnal y gystadleuaeth. Ar ôl edrych ar y cynhwysion lleol, ro’n i eisiau cyfuno eirin a choffi. Roedd ychwanegu blodau’r ysgaw yn ddewis ymarferol, ac ro’n i’n hoffi’r syniad o ychwanegu rhai swigod hefyd.”

“At ei gilydd, roedd yn brofiad gwych. Dysgais i lawer am y diwydiant a chael hwyl yn cymharu fy hun â phobl eraill o brifysgolion gwahanol. Y rhan orau oedd cystadlu ochr yn ochr â phobl eraill mewn ffordd gyfeillgar. Y rhan anoddaf? Peidio ag ennill y wobr! Ond hyd yn oed wrth beidio ag ennill, mae gwersi i'w dysgu. Mae'n bwysig addasu a bod yn gadarnhaol o hyd."
Angeline: Cystadleuaeth fegan 🌱

“Roedd cymryd rhan yn Sialens Fegan TUCO yn debyg i fynd lan a lawr ar ffigar-êt a chael fy nhanio gan fy nghariad at goginio ac achub y blaned. A dim ond 30 munud ar ôl imi ddechrau, dyma fi’n ymdaflu i’r her a cheisio hwylio saig fegan a fyddai’n tynnu dŵr o ddant y cigwyr mwyaf digymrodedd.”

Cyn penderfynu ar fy saig olaf – Bibimbap fegan Coreaidd ac wy bach del wedi’i ffrio’n feganaidd – saig yr un mor feiddgar ag yr oedd yn flasus. Bues i’n tasgu syniadau fatha gwyddonydd gwallgof, gan gydbwyso’r blasau, yr estheteg a’r maeth, a hynny tra’n osgoi'r demtasiwn i ddefnyddio un o salads Green Shoots! Ar ôl wythnosau o ymarfer, roedd y gegin wedi troi’n labordy (yn llythrennol...nid ar chwarae bach mae gwneud wy fegan wedi’i ffrio) o brofi a methu wrth imi geisio perffeithio’r rysáit a’r amseru.”

“Roedd cymryd rhan yn y gystadleuaeth fel Thunderdome byd coginio, ond yn lle ymladd i oroesi, ro’n ni’n brwydro i greu argraff gan ddefnyddio ein deheurwydd hwylio bwyd byd planhigion. Ynghanol yr anhrefn, dyma flodeuo cyfeillgarwch wrth inni rannu awgrymiadau, cefnogi ein gilydd a throi’r awyrgylch llawn pwysau yn gybolfa o gyffro ar y cyd.
Wrth gwrs, roedd yna eiliadau nerfus a dirdynnol, fel aros am y beirniaid fel pe bawn i’n cymryd rhan mewn sioe goginio realiti, ond roedd yr awen, y creadigrwydd a’r boddhad o gyflwyno fy rysáit yn gwneud y cyfan yn werth chweil.”
Gwen Cystadleuaeth y Baristas ☕️

“Pan soniodd Chris wrtho i am y gystadleuaeth a gofyn a oedd gen i ddiddordeb mewn cymryd rhan ro’n i’n meddwl y byddai’n gyfle da i ddysgu mwy am y diwydiant ac y byddai’n brofiad llawn hwyl.
Roedd gofyn inni greu diod unigryw o’n pen a’n pastwn ein hunain. Dechreuais i drwy feddwl am y blasau rwy’n eu hoffi, gan ddewis sinsir yn y pen draw. Wedyn, roedd yn rhaid imi feddwl am y blasau sy'n mynd yn dda gydag ef a phenderfynais i ar gnau coco. Wedyn roedd gofyn profi gwahanol ffyrdd o asio a chydbwyso’r cynhwysion ac yn y diwedd dyma fi’n dewis sinsir stem a dŵr cnau coco yn yr espresso. Roedd y ddiod braidd yn ddi-ffrwt o edrych arni ac felly gyda chymorth Ang gwnes i hwylio ewyn cnau coco i arnofio ar ei ben”

“Mae’r gystadleuaeth ar ffurf cyflwyniad 15 munud tra eich bod yn gwneud y diodydd ac felly roedd yn rhaid imi ymarfer siarad, egluro a gwneud y diodydd ar yr un pryd, a hynny oll o dan gyfyngiad amser. Yn un o nosweithiau'r clwb swper gwnaethon ni ymarfer popeth ymlaen llaw o flaen llond llaw o fyfyrwyr. Casglon ni adborth ganddyn nhw yn ogystal â’u barn am ein diodydd unigryw newydd.”

“Ar y cyfan roedd yn brofiad gwych, dysgais i lawer am goffi ac roedd y broses greadigol o greu fy niod fy hun yn ddifyr iawn. Y 15 munud ar y llwyfan oedd fy hoff ran a’r rhan waethaf ar yr un pryd, roedd yn llawn straen ond rwy'n falch fy mod i wedi ei wneud.
Yn bendant, byddwn i’n argymell i unrhyw un sydd â diddordeb gymryd rhan, mae’n ffordd newydd o edrych ar yr hyn rydyn ni’n ei wneud drwy’r dydd.”
Luke: Cystadleuaeth byrgyrs 🍔

“Dw i ddim wedi cystadlu ym maes arlwyo o’r blaen, felly ro’n i’n meddwl y byddai’n brofiad pleserus i gyflwyno elfen gystadleuol byd rhwyfo a’i gyfuno â fy sgiliau coginio.
“Ces i nifer o sesiynau tasgu syniadau gyda Marc ac Angeline. Des i o hyd i ychydig o syniadau gwreiddiol, a thrafod wedyn y manteision a’r anfanteision sydd gan bob un ac yna cyfyngu’r cyfan i ddau syniad a aseswyd wedyn yn y gegin. Penderfynon ni y byddai’r Vibin Moroccan Mingle Burger yn gwneud argraff arbennig gan nad oedden ni’n meddwl y byddai unrhyw un yn ystyried defnyddio twrci gan ei fod yn gig sydd fel arfer yn anodd gweithio gydag ef.”

“Mwynheuais i’r cystadlu a dweud y gwir, ro’n i'n meddwl y byddwn i'n fwy nerfus, ond cadwais i at y broses ro’n i wedi'i hymarfer. Es i ychydig yn rhy gyflym ar y dechrau, mae'n debyg, oherwydd y nerfau, felly tua hanner ffordd drwodd arafes i ychydig. Dydych chi ddim yn sylwi ar y beirniaid go iawn a dweud y gwir, a dw i ddim yn siŵr hyd yn oed os oedden nhw wedi dod i edrych arno i gan fy mod i’n canolbwyntio cymaint ar fy saig i.”

“Yn broffesiynol, mae’n wahanol iawn i unrhyw beth rwy wedi’i wneud o’r blaen. Does yr un beirniad profiadol iawn erioed wedi barnu fy mwyd. Fel arfer, os ydw i wedi coginio rhywbeth i rywun, cyd-destun cyfweliad swydd neu greu seigiau newydd mewn bwyty yw’r rheswm. Bydd yn braf cael adborth a gweld os galla i wella erbyn y flwyddyn nesaf. Hyd yn oed os bydda i mewn categori gwahanol, galla i ddefnyddio rhywfaint o’r adborth wrth ymarfer.”