Ymunwch â’r Clwb Swper!
Ymunwch â ni am bryd o fwyd tri chwrs RHAD AC AM DDIM a rhagor.

Mae 100 o fyfyrwyr yn dod ynghyd ar gyfer y Clwb Swper misol yn ein Caffi Green Shoots cysurus i gael pryd o fwyd llysieuol tri chwrs rhad ac am ddim.
Cewch fwynhau pryd o fwyd tri chwrs gyda chyd-fyfyrwyr, ffrindiau neu hyd yn oed dieithriaid. Mae'n gyfle perffaith i gwrdd â ffrindiau newydd a chael bwyd blasus.
Mae gan bawb hawl i un tocyn. Cadwch eich llygad ar ein cyfrif Instagram @CUFoods gan fod y tocynnau’n diflannu’n gyflym! Cewch hyd iddyn nhw trwy’r ddolen yn y proffil neu wedi’u rhannu yn ein straeon.
Cofiwch ddod â'ch Cerdyn Adnabod Myfyriwr gyda chi.
