Ewch i’r prif gynnwys

Sut i gymryd rhan ym Masnach Deg

6 cham bach y gallwch chi eu cymryd sy'n cael effaith fawr

Rydym yn falch o fod yn brifysgol Masnach Deg, yn cynnig cynnyrch sydd wedi'i ardystio gan Fasnach Deg bob dydd, o'n te i'n coffi.

Gallwch chithau hefyd chwarae eich rhan mewn nifer o ffyrdd - dyma sut y gallwch chi helpu i wneud gwahaniaeth:

1. Dewis cynhyrchion Masnach Deg

Un o'r ffyrdd hawsaf o gefnogi Masnach Deg yw dewis nwyddau Masnach Deg pryd bynnag y gallwch. Boed hynny pan ydych chi’n prynu eich coffi boreol, byrbryd, neu ddanteithion melys, chwiliwch am label Masnach Deg yn ein bwytai a’n caffis ar y campws.

2. Rhannu’r neges

Rhannwch yr hyn rydych chi'n ei wybod am Fasnach Deg â'ch ffrindiau, cyd-ddisgyblion a chymdeithasau. Tynnwch sylw at yr effaith gadarnhaol y mae Masnach Deg yn ei chael ar gynhyrchwyr mewn gwledydd sy'n datblygu, o wella amodau gwaith i arferion cynaliadwy. Gall eich llais chi ysbrydoli eraill i ddewis Masnach Deg hefyd!

3. Mynd i ddigwyddiadau Masnach Deg

Cymerwch gamau ymarferol drwy fynd i ddigwyddiadau fel Clwb Swper Masnach Deg yng Nghaffi Green Shoots a'n marchnadoedd cynaliadwyedd. Mae'r digwyddiadau hyn yn ffordd wych o ddysgu rhagor amdano ac maen nhw hefyd yn rhoi’r cyfle i chi ymgysylltu â'r gymuned, cwrdd â phobl sydd â'r un ffordd o feddwl, a chefnogi'r achos yn uniongyrchol.

4. Rhannu eich adborth

Mae eich adborth yn amhrisiadwy wrth i ni lunio ein hymrwymiad i Fasnach Deg. Rhannwch eich syniadau a'ch awgrymiadau ynghylch cynhyrchion a mentrau Masnach Deg ar y campws. P’un ai drwy argymell cynnyrch newydd neu gynnig syniadau i hyrwyddo Masnach Deg ymhellach, mae eich mewnbwn yn ein helpu i wella ac ehangu ein harferion Masnach Deg.

5. Ymuno â’r sgwrs ynghylch Masnach Deg

Mae Masnach Deg yn fwy na mudiad yn unig - mae'n gymuned. Cysylltwch â mentrau Masnach Deg y Brifysgol ar y cyfryngau cymdeithasol, ewch i gyfarfodydd cynaliadwyedd yn ystod y tymor, a chymerwch ran mewn trafodaethau ynghylch Masnach Deg. Mae'n ffordd wych o feithrin cysylltiad ag eraill sy'n awyddus i wneud gwahaniaeth.

6. Rhagor o wybodaeth

Mae'r brifysgol yn cynnig ystod o adnoddau addysgol i'ch helpu i ddeall egwyddorion Masnach Deg yn well a'u heffaith ar fasnach fyd-eang. Defnyddiwch y rhain i ddyfnhau eich dealltwriaeth a hyrwyddo arferion moesegol a chynaliadwy.

Mae gennych chi rôl bwysig i’w chwarae, felly beth am fynd ati heddiw? Ewch i unrhyw gaffi neu fwyty CUFoods, bachwch eich hoff ddiod Masnach Deg, a chymerwch eich cam cyntaf tuag at gefnogi dyfodol tecach a mwy cynaliadwy.

Latest articles

Sut i gymryd rhan ym Masnach Deg

6 cham bach y gallwch chi eu cymryd sy'n cael effaith fawr

Talu llai am bob llymaid gyda KeepCup

Get rewarded for being sustainable

Oeddech chi'n gwybod ein bod ni'n brifysgol Masnach Deg?

From your morning cup of tea to your lunch-time banana