Helpwch y gwenyn gyda hadau AM DDIM
Y Mis Cynaliadwyedd hwn

Mis Mawrth yw Mis Cynaliadwyedd CUFoods, a pha ffordd well o ddathlu na rhoi rhywbeth yn ôl i fyd natur!
Y mis hwn, helpwch ni i roi hwb i fioamrywiaeth ar y campws - ac ymhellach - drwy blannu hadau am ddim ar gyfer y gwenyn.
Pam mae angen ein help ni ar y gwenyn 🐝
Mae gwenyn a pheillwyr eraill yn hanfodol i'n hecosystem. Maen nhw’n helpu planhigion i dyfu, blodau i flodeuo a chnydau i ffynnu. Ond wrth i gynefinoedd gael eu colli a newid hinsawdd yn effeithio ar eu niferoedd, mae angen help llaw arnyn nhw.
Drwy blannu eich hadau, rydych chi'n creu mannau sy’n addas i wenyn, sy'n rhoi bwyd a lloches hanfodol iddyn nhw yng nghanol y campws neu yn eich gardd eich hun.
Mynnwch hadau am ddim 🌻
Mae'n hawdd iawn cael eich hadau ar y campws. Ewch i’w casglu nhw o’r caffis canlynol am ddim heddiw:
- Caffi John Percival
- Caffi'r Biowyddorau
- Lolfa IV
- Caffi Green Shoots
- Caffi Morgannwg
- Paned yn Sbarc
Sut i blannu eich hadau 🌱
- Dewch o hyd i le heulog - gwely neu botyn planhigion, neu hyd yn oed darn o bridd ar y campws.
- Gwasgarwch yr hadau yn ysgafn ar y pridd.
- Pwyswch nhw i lawr yn ofalus fel eu bod nhw’n cyffwrdd y ddaear.
- Rhowch ddŵr iddyn nhw'n rheolaidd a'u gwylio'n tyfu!
Bachwch hadau am ddim yr wythnos hon a helpwch greu dyfodol cynaliadwy, un blodyn ar y tro.