Ewch i’r prif gynnwys

Ffyrdd hawdd o leihau gwastraff bwyd

Beth rydyn ni'n ei wneud a beth allwch chi ei wneud

Mae'r DU yn gwastraffu 9.5 miliwn o dunelli o fwyd bob blwyddyn, ond gall y pethau bach rydych chi’n eu gwneud greu gwahaniaeth mawr.

Boed hynny’n cynllunio'ch prydau bwyd yn well neu feddwl am eich bwyd dros ben, dyma sut rydyn ni’n mynd i'r afael â gwastraff bwyd a sut y gallwch chi wneud hynny hefyd.

Beth rydyn ni’n ei wneud…

  • Does dim rhan o’n gwastraff bwyd yn mynd i safleoedd tirlenwi. Mae hyn am fod ein contractwyr gwastraff yn mynd â'n gwastraff bwyd oddi ar y safle i gael ei gompostio yn lle hynny.
  • Gan ddefnyddio dull arloesol, mae'r olew coginio dros ben o'n ceginau yn cael ei droi'n fiodanwydd, sy’n helpu i bweru cerbydau dosbarthu mewn ffordd fwy eco-gyfeillgar — pa mor cŵl yw hynny!
  • Drwy roi gostyngiad o hyd at 35c i chi bod tro byddwch chi’n yfed yn gynaliadwy rydyn ni’n eich annog i ddefnyddio cwpan y mae modd ei hailddefnyddio yn lle cwpan dafladwy. Dim cwpan gennych chi? Gallwch chi gael Cwpan KeepCup Prifysgol Caerdydd o unrhyw un o'n caffis a chael eich diod boeth gyntaf am ddim.
  • Rydyn ni’n cynnig bwyd dros ben am brisiau is o gaffis a bwytai dethol CUFoods er mwyn i chi gael pryd blasus. Ar yr un pryd byddwch chi’n helpu i leihau gwastraff bwyd ar y campws. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw lawrlwytho ap Too Good To Go.
  • Rydyn ni’n rhoi bagiau o weddillion coffi mâl o'n caffis am ddim er mwyn i chi fynd â nhw adref a’u defnyddio yn eich gardd, neu eu troi'n rhywbeth anhygoel — maen nhw'n ddelfrydol ar gyfer compost a bwyd planhigion!

Beth allwch chi ei wneud...

  1. Cadwch eich bwyd dros ben: oes gennych chi fwyd dros ben o swper neithiwr? Peidiwch â'i waredu. Yn lle hynny, ewch ati i’w storio'n iawn a'i fwyta’r diwrnod wedyn neu ei rewi i’w ddefnyddio’n ddiweddarach. Bydd yn arbed amser, gwastraff ac arian i chi!
  2. Prynu ffrwythau a llysiau 'hyll': mae cymaint o ffrwythau a llysiau da yn cael eu gwaredu gan nad ydyn nhw'n edrych yn 'berffaith'. Y tro nesaf y byddwch chi'n gwneud eich siopa bwyd, dewiswch y moron a'r afalau â siâp od — byddan nhw’n blasu'n llawn cystal.
  3. Cynlluniwch eich prydau bwyd:ceisiwch osgoi prynu gormod o gynhwysion a fydd yn dirywio cyn i chi gael cyfle i'w defnyddio trwy gynllunio'ch prydau bwyd ymlaen llaw er mwyn i chi allu gwneud rhestr siopa a chadw ati.
  4. Defnyddiwch apiau gwastraff bwyd: dewiswch fwyd dros ben pryd bynnag y gallwch chi trwy lawrlwytho apiau fel Too Good To Go ac Olio.
  5. Byddwch yn greadigol: gallwch chi bob amser droi bwyd nad yw'n ffres yn bryd blasus. Defnyddiwch weddillion llysiau mewn stoc, bananas aeddfed ar gyfer bara banana a chofiwch gallwch chi droi bron unrhyw beth yn gawl!

Gall lleihau gwastraff bwyd fod yn hawdd, ac rydyn ni wedi ei gwneud yn haws fyth gyda'n cynlluniau ar y campws sy'n helpu i fynd i’r afael â gwastraff bwyd wrth arbed arian i chi.

Eisiau dysgu rhagor? Darllenwch am yr holl ffyrdd eraill rydyn ni'n bod yn gynaliadwy ar y campws.

Latest articles

Arbed arian gyda Bwyd Twym ar Gyllideb Geiniog a Dimai

Y cynnig cinio poeth am £3 y mae angen i chi wybod amdano

Dewch draw i’n marchnad ffermwyr dros dro

Cefnogwch fusnesau lleol a mynnwch ddantaith

Ffyrdd hawdd o leihau gwastraff bwyd

Beth rydyn ni'n ei wneud a beth allwch chi ei wneud

Sut i gymryd rhan ym Masnach Deg

6 cham bach y gallwch chi eu cymryd sy'n cael effaith fawr