Ewch i’r prif gynnwys

Lawrlwythwch ap CUFoods

I ddechrau arbed heddiw!

Lawrlwythwch yr ap nawr yn rhad ac am ddim o'r App Store neu Google Play a chael gwerth £5 o bwyntiau i'w gwario yn ein caffis a'n bwytai! Ond nid dyna’r cyfan, daliwch ati i'w ddefnyddio i gasglu pwyntiau bob tro y byddwch yn yfed ac yn bwyta ar y campws.

Beth yw ap CUFoods?

Ap sy’n gwobrwyo teyrngarwch yw hwn. Mae’n cynnig bargeinion unigryw a chynigion ychwanegol drwy gydol y flwyddyn i ennill gwobrau ac arbed arian yn ein bwytai a'n caffis.

Mae'r gwobrau yn cynnwys:

  • Gwerth £5 o bwyntiau i'w gwario ar y campws pan fyddwch chi’n lawrlwytho
  • Byddwch chi’n casglu 4 pwynt am bob £1 rydych chi'n ei gwario, mae 1 pwynt yn rhoi 1c i chi ar yr ap.
  • Prynwch 9 diod boeth, iâ neu smwddi i gael y 10fed yn rhad ac am ddim!

Felly, os ydych chi'n cael diod ar y campws bob dydd, byddech chi'n cael o leiaf 16 coffi am ddim mewn blwyddyn.

Byddech chi'n synnu faint y gallwch chi ei arbed yn ystod y flwyddyn academaidd, felly ewch ati i weld dros eich hun drwy lawrlwytho ap CUFoods heddiw.

Cwestiynau cyffredin

  1. Ar yr App Store neu Google Play ar eich ffôn, chwiliwch am 'Cardiff University Food' a dylai'r ap ymddangos gan ddangos logo CuFoods.
  2. Cliciwch ar download.
  3. Ar ôl ei lawrlwytho, agorwch yr ap a dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrîn i nodi'ch manylion, cofrestru eich ffôn a chreu cyfrif.

Os nad ydych chi wedi cael yr ebost dilysu yn ôl pob golwg, gwnewch y canlynol:

  • Edrychwch yn eich ffolder sothach (sbam).
  • Os nad yw'r ebost yno, ailgysylltwch â gwefan Bwyd a Diod Prifysgol Caerdydd, mewngofnodwch i'ch cyfrif a chliciwch ar y ddolen i 'Ailanfon yr Ebost Dilysu'.
  • Os nad yw'r uchod yn gweithio, cysylltwch â foodanddrink@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o gymorth.

I ailosod eich cyfrinair, ewch i’r sgrîn Manylion Cyfrif, sgroliwch i lawr i adran y Cyfrinair lle cewch hyd i 3 maes: Cyfrinair Cyfredol, Cyfrinair Newydd, a Chadarnhau Cyfrinair Newydd.

Rhowch y manylion angenrheidiol ym mhob un o'r meysydd hyn a chliciwch y botwm 'Ailosod Cyfrinair'. Os ydych chi wedi anghofio eich cyfrinair ac yn methu mewngofnodi, gallwch chi ailosod eich cyfrinair drwy ddefnyddio'r dudalen ‘Wedi Anghofio’r Cyfrinair’ ar y sgrîn mewngofnodi.

I newid eich cyfeiriad ebost cofrestredig (y cyfeiriad ebost rydych chi'n ei ddefnyddio i fewngofnodi i'r wefan hon), ewch i'ch sgrîn 'Manylion y Cyfrif' ac ehangu'r panel 'Cysylltu'.

O fewn y panel hwn, fe welwch adran o'r enw 'Newid eich Cyfeiriad Ebost'. Nodwch eich cyfeiriad ebost newydd a’i gadarnhau, cyn clicio’r botwm 'Cadw'.

Bydd ebost dilysu yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad ebost newydd, a bydd y neges yn cynnwys dolen ailosod. Ewch ati wedi hynny i ddilyn y camau a ddangosir ar y sgrîn.

Gallwch gasglu pwyntiau drwy ddangos y côd QR ar eich ap Bwyd Prifysgol Caerdydd i'r ariannwr wrth dalu.

Gall deiliad y cerdyn weld faint o bwyntiau sydd ganddynt ar-lein drwy fewngofnodi i'w cyfrif ar y wefan. Mae modd gweld y pwyntiau a gewch o'ch trafodiad, a chyfanswm y pwyntiau sydd gennych chi ar hyn o bryd, ar bob derbynneb sy’n cael ei hargraffu hefyd.

Os oes gennych chi dalebau wedi'u neilltuo i'ch cyfrif, mae'r talebau hyn bob amser ar gael i'w defnyddio pan fyddwch yn prynu eitemau wrth y til (gan dybio eich bod yn bodloni holl ofynion y talebau). Gallwch chi hefyd ddefnyddio Auto-Apply i ragbaratoi talebau ar eich cerdyn/ap ffôn symudol fel eu bod yn barod i’w cymhwyso’n awtomatig wrth eu cyflwyno wrth y til.

Mae angen manylion personol i'n galluogi i gysylltu rhif eich cerdyn/ap ffôn symudol â chi a Chynllun Bwyd a Diod Prifysgol Caerdydd. Heb y wybodaeth hon, ni fyddwn yn gallu cynhyrchu crynodeb o’ch cyfrif, sy'n golygu na fyddwch yn gallu casglu pwyntiau na’u defnyddio.

Mae'r manylion a roddwch yn ystod y broses gofrestru yn cael eu cadw'n ddiogel ar Weinyddwyr Systemau MCR, ac nid ydynt yn cael eu cadw ar unrhyw wefannau.

Eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod i Fwyd a Diod Prifysgol Caerdydd am unrhyw newid i'ch manylion personol drwy ddiweddaru eich cyfrif.

Os oes gennych chi ragor o ymholiadau am Gynllun Bwyd a Diod Prifysgol Caerdydd, cysylltwch â ni drwy ebostio foodanddrink@caerdydd.ac.uk.

Latest articles

Rhowch gynnig ar ein cystadleuaeth Dydd San Ffolant!

Ffansi ennill hamper o ddanteithion, a dau docyn i'n Clwb Swper nesaf?

Bwyty Trevithick

Ar gyfer amrywiaeth o brydau bwyd poeth a phethau blasus o’r caffi.

Fe enillon ni yng Ngwobrau Gŵn Gwyrdd 2024!

Yng nghategori Iechyd, Bwyd a Diod ar y Campws.

Lawrlwythwch ap CUFoods

I ddechrau arbed arian heddiw!

Bwydlen Caffi Green Shoots

Ein caffi figanaidd, llysieuol a bwyd sy'n seiliedig ar blanhigion.