Oeddech chi'n gwybod ein bod ni'n brifysgol Masnach Deg?
O'ch paned boreol i'ch banana amser cinio

Yn CUFoods, rydym wedi ymrwymo i gael ein cynnyrch o ffynonellau moesegol. Mae hyn yn golygu bod yr holl de, coffi, siocled poeth a hyd yn oed bananas a weinir ym Mhrifysgol Caerdydd wedi’u hardystio gan Fasnach Deg.
Beth yw Masnach Deg?
Mae Masnach Deg yn fwy na label - mae'n fudiad byd-eang sy'n hyrwyddo cyflogau teg, amodau gwaith gwell ac arferion cynaliadwy ymhlith cynhyrchwyr mewn gwledydd sy'n datblygu.
Drwy gadw at brosesau ardystio manwl, megis ardystiad Masnach Deg a system ddilysu Sefydliad Masnach Deg y Byd, mae Masnach Deg yn gwneud yn siŵr bod arferion moesegol ar waith ar draws cadwyni cyflenwi.
Pam mae hynny’n bwysig?
Mae cynhyrchwyr te, coffi, coco a diwydiannau eraill yn aml yn wynebu tlodi eithafol ac amodau gwaith llym. Mae Masnach Deg yn helpu i newid hynny drwy hyrwyddo system fasnachu deg a chynaliadwy ac sy’n rhoi pobl a'r blaned yn gyntaf.
Ffeithiau difyr am de Masnach Deg 🫖
Wyddoch chi?
- Mae tua 70,000 paned o de yn cael eu hyfed bob eiliad ledled y byd.
- Y DU yw’r farchnad fwyaf ar gyfer te Masnach Deg – ac mae’n tyfu!
- Kenya yw cynhyrchydd mwyaf te Masnach Deg
- Mae ffermydd te Masnach Deg yn defnyddio dros 113,000 hectar o dir ar draws y byd (sy'n cyfateb i dros 80,000 o gaeau pêl-droed)
- Te yw'r ail ddiod mwyaf poblogaidd yn y byd, a dim ond dŵr sy'n rhagori arno
Mae llawer o gymunedau sy’n tyfu te yn byw mewn tlodi eithafol, ond mae Masnach Deg yn grymuso ffermwyr drwy gynnig bywoliaeth fwy cynaliadwy.
Dyna pam rydym yn falch o hyrwyddo egwyddorion Masnach Deg a’u hintegreiddio yn ein caffis, ein bwytai a’n gwasanaethau lletygarwch. Mae pob paned o de, coffi, siocled poeth a banana rydych chi'n ei fwynhau ar y campws yn cyfrannu’n uniongyrchol at roi cyflogau tecach ac amodau gwaith gwell i ffermwyr. Ar wahân i ddiodydd, rydym hefyd yn prynu siwgr Masnach Deg, siocled (gan gynnwys Tony's Chocolonely, a hyd yn oed gwin, gan olygu bod pawb yn gallu dewis yn foesegol.

Helpwch ni i helpu eraill sydd mewn angen drwy ddewis Masnach Deg ar y campws heddiw.