Cynlluniau prydau bwyd CUFoods
Ymunwch â Chlwb CUFoods!
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0010/2892016/Meal-plans-P1230762.jpg?w=1170&ar=16:9)
Cewch fwyta’n ddiffwdan ar y campws gyda chynlluniau prydau bwyd i dynnu dŵr i’ch dannedd, gyda manteision unigryw.
Dewiswch o 3 chynllun bwyd sy’n cynnig gwahanol ostyngiadau, pwyntiau teyrngarwch a llawer mwy i fynd a’ch bryd yn ystod Tymor 2:
6 -24 Ionawr 2025
Cynllun Prydau A: £90
£30 yr wythnos
Cynllun Prydau B: £120
£40 yr wythnos
Cynllun Prydau C: £165
£55 yr wythnos
Pa fanteision alla i eu cael?
- Gostyngiad o 20% ar brydau plât mewn bwytai dethol
- Gostyngiad o 10% ar ddiodydd poeth
- Gostyngiad o 5% ar fwyd bachu a bwyta CUFoods
- 4 pwynt teyrngarwch am bob £1 rydych chi’n ei gwario
- Os ydych chi’n prynu 9 diod, cewch y degfed am ddim yn achos diodydd poeth, coffi iâ, smwddis a ffrwythau ffres.
Ymlaciwch wrth greu cronfa ymlaen llaw i brynu bwyd a diod ar y campws, a gwariwch pryd bynnag sy'n gyfleus i chi.