Dewch draw i’n marchnad ffermwyr dros dro

Cefnogwch fusnesau lleol a mynnwch ddantaith
Chwilio am fwyd blasus gan rai o werthwyr Cymreig lleol? Rydych chi wedi dod o hyd iddo!
Drwy gydol y flwyddyn, rydyn ni’n cynnal amrywiaeth o farchnadoedd ffermwyr yng ngardd Caffi Green Shoots lle bydd gennych chi’r dewis o bori stondinau’n llawn cynnyrch cynaliadwy a lleol. O sawsiau tsili cartref a danteithion melys i blanhigion a chrefftau unigryw, bydd rhywbeth at ddant pawb bob amser.
Trwy gefnogi busnesau bach lleol rydych chi'n helpu'r economi leol, yn creu swyddi yn eich cymuned ac yn cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd.
Does dim angen cadw lle – galwch heibio yn ystod oriau agor i fwynhau bwyd blasus, diodydd iachusol a chwrdd â rhai o fasnachwyr gorau’r ddinas.
Ti byth yn gwybod, hwyrach y byddwch chi'n dod o hyd i rywbeth na fyddwch chi'n dod o hyd iddo yn unman arall!
Cadwch lygad ar ein negeseuon Instagram @CUFoods i roi’r un nesaf yn eich calendrau.