Ewch i’r prif gynnwys

Dewch i Fwyty Julian Hodge

Sy’n cynnig bwydlen amrywiol a dewis o ddiodydd.

Cymuned y Brifysgol yn y caffi

Mae Bwyty Julian Hodge yn Ysgol Busnes Caerdydd, felly gallwch chi alw draw i gael bwyd trwy gydol y dydd.

Gallwch chi gasglu coffi arbenigol, brechdan a byrbryd o'r caffi os ydych chi ar frys, neu gallwch chi dreulio eich egwyl cinio yn ymlacio gyda phryd poeth cysurus. Mae'r fwydlen yn newid bob wythnos, felly beth am roi cynnig ar rywbeth newydd neu ddod o hyd i ffefryn.

Mae'r bwyty’n cynnig prydau Prydeinig traddodiadol, byrgyrs, pizzas, powlenni ramen a seigiau o bedwar ban byd (gan gynnwys bwydydd llysieuol).

Oriau agor a lleoliad

Dydd Llun - Dydd Gwener08:30 - 17:00
Dydd Sadwrn a Dydd SulAr gau
Julian Hodge Restaurant

Awydd cael rhagor o wybodaeth?

Dilynwch ni ar Instagram @CUFoods.

Latest articles

Yr hyn rydych chi wedi'i gyflawni yn ystod y flwyddyn ddiwethaf!

Sut rydych chi wedi helpu i sicrhau newid ar y campws

Bwydlen Caffi Green Shoots

Ein caffi figanaidd, llysieuol a bwyd sy'n seiliedig ar blanhigion.

Bwydlen Caffi Green Shoots

Ein caffi figanaidd, llysieuol a bwyd sy'n seiliedig ar blanhigion.