Dewch i Gaffi John Percival
I gael brechdanau, cawl a smwddis.

Ydych chi'n chwilio am fwyd fforddiadwy, blasus? Mae Caffi John Percival yn cynnig hyn!
Mae’r caffi’n gweini bwyd poeth sydd wedi'i baratoi'n ffres, ac yn cynnig ystod eang o frechdanau, rholiau, salad, a chawl ffres cynnes. Galwch draw yn y bore i fwynhau teisennau crwst haenog a byns brecwast blasus gyda diodydd poeth.
Mae nifer helaeth o ddiodydd ar gael i dorri eich syched trwy gydol y dydd gan gynnwys coffi a siocled poeth neu smwddis ffres.
Oriau agor a lleoliad
Dydd Llun - Dydd Gwener | 08:30 - 17:00 |
---|---|
Dydd Sadwrn a Dydd Sul | Ar gau |
Awydd cael rhagor o wybodaeth?
Dilynwch ni ar Instagram @CUFoods.