Dewch i Lolfa IV
Ar gyfer uwd boreol, cinio blasus neu ddanteithion melys.

Yng nghanol Campws Parc y Mynydd Bychan yn yr Ysgol Meddygaeth mae Lolfa IV – caffi sydd hefyd yn rhan o Undeb y Myfyrwyr.
Gydag awyrgylch cynnes a hamddenol, dyma’r lle perffaith i ymlacio ar ôl eich sesiynau astudio yn y bore a thrafod gyda ffrindiau. Os hoffech chi rywbeth sawrus, mae digonedd o ddewis ar gael. Dewiswch o blith potiau nwdls blasus, brechdanau bachu a bwyta, cawliau twym a thatws trwy’u crwyn.
Os hoffech chi rywbeth melys, dewiswch gacen flasus i’w mwynhau ar y cyd â’r coffi barista.
Oriau agor a lleoliad
Dydd Llun - Dydd Gwener | 08:30 - 16:00 |
---|---|
Dydd Sadwrn a Dydd Sul | Ar gau |
Awydd cael rhagor o wybodaeth?
Dilynwch ni ar Instagram @CUFoods.