Ewch i’r prif gynnwys

Bwyd a diod fforddiadwy ym Mhrifysgol Caerdydd

Bwyta'n dda heb dorri'r banc

Ym Mhrifysgol Caerdydd, rydyn ni’n gwybod bod cadw eich cyllideb dan reolaeth yr un mor bwysig â chynnal eich lefelau egni drwy gydol y dydd. Dyna pam ein bod wedi ymrwymo i weini opsiynau bwyd a diod ffres, lleol, cynaliadwy ar y campws — i gyd tra'n sicrhau bod ein prisiau’n parhau’n fforddiadwy.

Ein nod yw cynnig prydau blasus, maethlon i chi am bris fforddiadwy, fel y gallwch chi fwynhau cinio blasus neu hwb caffein heb dorri'r banc.

Oeddech chi'n gwybod ein bod ni, ers 2021, wedi cadw prisiau ein bargeinion bwyd yr un fath, gan roi'r un gwerth i chi flwyddyn ar ôl blwyddyn?

Ac nid dyna’r cyfan! Rydyn ni hefyd wedi sicrhau bod holl gynhyrchion CUFoods yn cael eu gwneud yn ffres ar y campws bob dydd, gan ddefnyddio cynhwysion lleol a chynaliadwy, fel y gallwch chi fwynhau prydau blasus tra'n cefnogi arferion moesegol.

Sut mae ein prisiau’n cymharu

Rydyn ni hefyd wedi gwneud y fathemateg ar sut mae ein bargeinion bwyd a'n prisiau bob dydd yn cymharu â rhai o'r cadwyni stryd fawr sydd wedi'u lleoli o amgylch campws Parc Cathays.

Dyma gymhariaeth gyflym ar gyfer cinio neu snac arferol:

EitemCUFoodsCostaStarbucks (Undeb y Myfyrwyr)Hoffi CoffiBrodiesGreggsMetchy's caffi eistedd i mewn
Brechdan (safonol)£2.30£3.40-£3.60-Sylfaenol £1.30 hyd at £2.30£8.99 (baguette bacwn dwbl)
Panini£4.00£4.99-£4.95£4.00 (brechdan grasu)Baguette poeth £3.55 neu fwy£10.99 (gyda sglodion a salad)
Pecyn o greision£1.20£1.25-£1.00£1.20£1.05-
Darn o gacen£2.75£2.70£2.50£3.50£3.50o £1.35-
Bocs poeth£3.95£5.70---£4.55£10.99 (brechdan wedi’i lapio boeth, 2 lenwad a sglodion a salad)
Cappuccino cyffredin£3.05£3.80£3.30£3.60£3.50£2.15£3.60
Cynnig cinio brechdanau£3.70£5.99 (brechdan grasu a choffi)-£6.45-£3.85-
Cynnig cinio bocs poeth£5.00----£5.75-
Cynnig cinio panini£5.00£5.99-£6.45---

Yn fwy nag erioed, rydyn ni’n deall pa mor bwysig yw gwerth, a dyna pam mae llawer o'n cynhyrchion wedi’u prisio’n is na sawl siop stryd fawr.

Ond nid dim ond y pris sy’n bwysig wrth gwrs – rydyn ni'n poeni am beth sydd ar eich plât hefyd. 

Dyw gwerth ddim bob amser yn golygu dewis yr eitem rataf ar y fwydlen. Rydyn ni’n deall eich bod chi eisiau cael cynnyrch gwych am eich arian.

Felly iawn, efallai bod cappuccino Greggs ychydig yn rhatach, ond gyda'n coffi ni rydych chi'n gwybod eich bod chi'n cael coffi arbenigol o safon barista, wedi'i rostio a'i fragu gyda chi mewn golwg.

Rydyn ni’n ymfalchïo mewn cynnig opsiynau bwyd o ansawdd uchel sydd nid yn unig yn flasus a ffres ond hefyd o ffynonellau cynaliadwy. Rydyn ni’n angerddol am gefnogi cyflenwyr lleol a defnyddio cynhwysion a gynhyrchir yn foesegol ym mhopeth a wnawn, i gyd tra'n cadw prisiau’n isel i'ch cefnogi chi.

Beth mae hyn yn ei olygu i chi?

Pan fyddwch chi'n dewis CUFoods, rydych chi nid yn unig yn cael bwyd gwych ond hefyd yn cefnogi ffermwyr a busnesau lleol, ac yn cyfrannu at gampws mwy cynaliadwy. Felly gallwch chi deimlo'n dda am beth rydych chi'n ei fwyta — heb wario ffortiwn.

Eleni, ein ffocws ni yw gwella ein gwerth ymhellach. Felly, y tro nesaf y byddwch chi'n chwilio am snac cyflym neu bryd llawn, cofiwch fod CuFoods yn gefn i chi.

Rhagor am hyn maes o law!

Cadwch y wybodaeth ddiweddaraf am ein cynigion diweddaraf

Latest articles

Yr hyn rydych chi wedi'i gyflawni yn ystod y flwyddyn ddiwethaf!

Sut rydych chi wedi helpu i sicrhau newid ar y campws

Bwydlen Caffi Green Shoots

Ein caffi figanaidd, llysieuol a bwyd sy'n seiliedig ar blanhigion.

Bwydlen Caffi Green Shoots

Ein caffi figanaidd, llysieuol a bwyd sy'n seiliedig ar blanhigion.