Ewch i’r prif gynnwys

5 ffordd hawdd o arbed arian ar y campws

Awgrymiadau bach sy’n mynd yn bell

Mae bod yn fyfyriwr yn gallu bod yn ddigon costus, ond o wneud dewisiadau call, gallwch chi fynd â’ch arian ymhellach a mwynhau prydau blasus a maethlon.

Dyma rai o’r ffyrdd hawsaf o arbed arian ar fwyd a diod wrth astudio ar y campws:

Ap CUFoods: Pwyntiau, gwobrau ac arbedion!

Lawrlwythwch ap CUFoods i gasglu pwyntiau ac ennill gwobrau er mwyn arbed hyd yn oed mwy ar eich hoff brydau a diodydd.

Bwyd Twym am Geiniog a Dimai: Pryd poeth am £3

Bob dydd Mawrth yng Ngardd Gaffi Green Shoots, gallwch fwynhau pryd twym am £3 yn unig! Dewch â'ch bocs bwyd eich hun a’ch cerdyn adnabod myfyriwr, a mwynhewch bryd o fwyd heb wario’n wyllt.

Dysgwch yn union sut mae'n gweithio yma.

Clwb CUFoods: Arbedwch hyd yn oed mwy!

Mae ymuno â Chlwb CUFoods yn ffordd berffaith o arbed hyd yn oed mwy o arian ar fwyd drwy gydol y tymor. Mae'r cynllun prydau hyblyg a chyfleus hwn yn eich galluogi chi i ddewis pecyn sy'n cyd-fynd â'ch anghenion a'ch cyllideb wythnosol, gyda'r rhyddid i wario sut a phryd y mynnwch chi.

Os ydych chi’n dewis dod yn aelod, byddwch chi hefyd yn mwynhau ystod o fanteision ychwanegol a chynigion unigryw fydd yn gwneud bwyta ar y campws hyd yn oed yn fwy fforddiadwy.

Cynigion ar fwyd: Manteisiwch ar fargeinion ar fwyd

Mae digon o gynigion bwyd a gostyngiadau ar gael drwy gydol y flwyddyn, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n manteisio arnyn nhw.

Yn brydau rhad, yn fargeinion tymhorol neu’n fargeinion brecwast, mae cymaint o ffyrdd o gynilo.

Cynllun KeepCup: Llenwch eich cwpan am lai

Yn rhan o'n hymrwymiad i gynaliadwyedd, arbedwch 35c bob tro y byddwch chi’n defnyddio cwpan amldro ar y campws yn lle cwpan y gellir ei gompostio. Hefyd, os ydych chi'n defnyddio ap CUFoods, prynwch naw paned a mynnwch eich degfed am ddim!

Llwglyd cyn mynd adref? Peidiwch ag anghofio bod rhai o'n caffis a bwytai yn cynnig bwyd dros ben am brisiau gostyngol ar ap Too Good To Go!

Dysgwch fwy am yr holl ffyrdd y gallwch chi arbed arian ar y campws.

Latest articles

Dewch i nôl gwaddodion coffi ar gyfer eich gardd

Gwaddodion coffi yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr sy’n hoffi garddio

Ffynhonnau dŵr ar y campws

Gweithio gyda Refill Wales i leihau’r defnydd o blastig untro

Arbed arian gyda Bwyd Twym ar Gyllideb Geiniog a Dimai

Y cynnig cinio poeth am £3 y mae angen i chi wybod amdano

Dewch draw i’n marchnad ffermwyr dros dro

Cefnogwch fusnesau lleol a mynnwch ddantaith