Prosiectau ymchwil
Mae’r Ganolfan i’r Economi Greadigol ym Mhrifysgol Caerdydd yn canolbwyntio ar ddadansoddi a gwella gwerth cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd y diwydiannau creadigol a diwylliannol.
Mae tîm ymchwil y Ganolfan yn cynnwys academyddion amlddisgyblaethol ac yn canolbwyntio ar waith ymchwil rhyngddisgyblaethol a chydweithredol.
Mae’r Ganolfan yn ymgysylltu’n eang â’r diwydiannau creadigol a diwylliannol ac mae ganddi rwydwaith cryf o gydweithwyr, sy’n hyrwyddo gwaith ymchwil yn y maes gyda ffocws cryf ar effeithiau a llunio polisïau. Mae'r Ganolfan yn cyhoeddi ystod o allbynnau, gan gynnwys briffiau polisi a chyhoeddiadau academaidd.
Mapio Newyddiaduraeth er Budd y Cyhoedd yng Nghymru (Canolfan i'r Economi Greadigol, 2024)
Mae newyddiaduraeth er budd y cyhoedd yng Nghymru, sy'n rhan annatod o ddemocratiaeth, ar adeg dyngedfennol oherwydd dirywiad yn nifer y darllenwyr a tharfu digidol. Mae'r sector hwn, sy'n hanfodol ar gyfer ymgysylltu dinesig a goruchwylio pŵer, yn wynebu cymhlethdodau hunaniaeth ddiwylliannol ac ieithyddol benodol Cymru. Mae'r astudiaeth hon a gynhaliwyd gan Ganolfan yr Economi Greadigol ym Mhrifysgol Caerdydd ac a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru yn ceisio pontio'r bylchau gwybodaeth a siartio cwrs ar gyfer dyfodol y diwydiant drwy roi mewnwelediadau gweithredu i randdeiliaid.
Darllenwch yr adroddiad Mapio Newyddiaduraeth er Budd y Cyhoedd yng Nghymru.
Atlas Economi Greadigol Cymru (Cymru Greadigol, 2023)
Mae Atlas Economi Greadigol Cymru’n blatfform sy’n dangos nerth creadigol Cymru. Bydd yn amlygu ei chryfderau, yn astudio ei dyfnderoedd, ac yn helpu i greu cysylltiadau a bod yn adnodd defnyddiol i'r rheiny sydd am gael rhagor o wybodaeth am ecosystem greadigol Cymru.
Gwaith sy’n mynd rhagddo yw'r Atlas hwn, a bydd yn parhau i esblygu a thyfu ochr yn ochr â'r diwydiannau creadigol.
Mae'r Atlas yn archwilio dosbarthiad daearyddol a maint y diwydiannau creadigol ledled Cymru yn ôl sector creadigol. Gallwch ei ddefnyddio i ddarganfod gweithgarwch y diwydiannau creadigol ledled Cymru, megis nifer y cwmnïau a gweithwyr mewn sectorau creadigol penodol, ble mae mannau cydweithio ar gael neu ddaearyddiaeth prosiectau clwstwr creadigol.
Uwchglwstwr Bryste-Caerdydd (Prifysgol Bryste a Phrifysgol Caerdydd, 2023)
Er bod Bryste a Chaerdydd wedi bod yn cyfathrebu ac yn cydweithio’n gyson yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig o ran rhaglenni ymchwil a datblygu, mae nifer o ffactorau cysylltiedig yn dod at ei gilydd i edrych yn ehangach ar gysylltiadau a chyfleoedd posibl ar gyfer partneriaethau mwy gweithredol rhwng y ddwy ddinas a’r rhanbarthau ehangach.
Cytunodd Prifysgol Bryste a Phrifysgol Caerdydd i ddarparu cyllid sbarduno i archwilio’r cynnig o Echel Diwydiannau Creadigol Bryste/Caerdydd yn fanylach. Nod y prosiect yw edrych yn fanwl ar y sefyllfa bresennol a thueddiadau datblygu gweladwy’r diwydiannau creadigol yn y ddwy ddinas a’r rhanbarthau ehangach a gwerthuso’r manylion hynny, gan gynnwys yng nghyd-destun ffactorau economaidd a gwleidyddol ehangach. Diben hyn yw creu set o gamau gweithredu a argymhellir, neu weithgareddau posibl yn y dyfodol, os yn briodol.
Mapio Sector Newyddiaduraeth Cymru (Gweithgor Newyddiaduraeth Cymru er Budd y Cyhoedd Llywodraeth Cymru, 2023)
Mae angen diwydiant newyddion sy'n adlewyrchu ein cymunedau'n well er mwyn cynrychioli pobl a straeon Cymru yn wirioneddol. Er mwyn creu’r newid systemig sydd wedi’i gydnabod fel angen gan Weithgor Newyddiaduraeth er Budd y Cyhoedd yng Nghymru, rhaid deall amrywiaeth ac anghenion y sector yn gyntaf. Ein nod yw archwilio profiad unigolion a sefydliadau o ran recriwtio, cadw staff chyfleoedd cynnydd gyda'r sector newyddiaduraeth leol. Byddwn yn rhannu canfyddiadau’r gwaith ymchwil yn eang ac yn eu defnyddio i lywio ymyriadau strategol wedi’u targedu yn y dyfodol.
Effaith Doctor Who ar sector y cyfryngau yng Nghaerdydd a De Cymru (BBC, 2023)
Cyn pen-blwydd Doctor Who yn 60 oed, comisiynodd y BBC y Ganolfan i’r Economi Greadigol i greu adroddiad yn canolbwyntio ar effaith aileni Doctor Who yng Nghymru ar Gaerdydd a de Cymru. Mae Siarter y BBC yn nodi’r angen i’r gorfforaeth “adlewyrchu, cynrychioli a gwasanaethu cymunedau amrywiol holl wledydd a rhanbarthau’r Deyrnas Unedig ac, wrth wneud hynny, cefnogi’r economi greadigol ledled y Deyrnas Unedig.” Mae'r adroddiad hwn yn archwilio effaith symudiad Doctor Who i dde Cymru – yn ogystal â datblygiad cyfochrog y stiwdios drama ym Mhorth y Rhath ym Mae Caerdydd – drwy'r lens yna. Mae’r gwaith ymchwil yn casglu barn rhanddeiliaid allweddol yn y diwydiant sydd wedi bod yn gyfranogwyr ac yn arsylwi’r cyfryngau a’r diwydiannau creadigol yn ne Cymru.
Cynhyrchu Rhithwir XR Network+ yn yr Economi Ddigidol (Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol, 2022-2027)
Rydym yn bartner mewn rhwydwaith ymchwil newydd a gomisiynwyd i osod yr agenda ar gyfer arloesedd yn y dyfodol mewn technoleg cynhyrchu rhithwir (VP), creu a defnyddio cynnwys. Mae'r rhwydwaith yn cynnull pum partner prosiect, dan arweiniad Prifysgol Efrog, gyda Phrifysgol Caerdydd; Prifysgol Caeredin; Prifysgol Ulster a Busnes Ffasiwn, Tecstilau a Thechnoleg UAL. Mae Cynhyrchu Rhithwir XR Network+ yn yr Economi Ddigidol yn darparu cyllid a chymorth i ymchwilwyr sy'n gweithio ym maes cynhyrchu rhithwir a thechnolegau XR. Bydd y prosiect yn sefydlu rhwydwaith ac agenda ymchwil 10 mlynedd ynghylch creadigaeth cynnwys gysylltiedig â VP a’i ddefnydd yn yr economi greadigol a digidol. Trwy rwydwaith o bartneriaethau, bydd XR Network+ yn cefnogi twf ac yn hwyluso partneriaethau cydweithio rhwng y byd academaidd a diwydiant ar lwyfan cenedlaethol.
Rheoleiddio Darlledu yng Nghymru (IWA, 2022)
Gyda goblygiadau i’r cynnwys rydym yn ei wylio, yn gwrando arno ac yn ei fwynhau bob dydd, mae dyfodol darlledu yn cyffwrdd â’n dychymyg a’n hunaniaeth gyfunol. Mae hefyd yn cyflwyno heriau deddfwriaethol ac mae pwerau dros gyfryngau gwasanaeth cyhoeddus yn cael eu trafod yn frwd, gyda thrafodaethau parhaus ar ddwy ochr yr M4 ynghylch y potensial i wledydd datganoledig gymryd perchnogaeth o’u gwasanaethau darlledu eu hunain. Bu’r Sefydliad Materion Cymreig yn cydweithio ag ymchwilwyr Canolfan i’r Economi Greadigol i arwain prosiect ymchwil yn asesu cyflwr presennol rheoleiddio ac atebolrwydd ar gyfer darlledwyr yng Nghymru, ac yn arolygu’r opsiynau sydd ar gael ar gyfer modelau rheoleiddio yn y dyfodol.
Mapio Canolfannau Creadigol yng Nghymru (British Council, 2022)
Mae’r adroddiad mapio hwn yn cynnig cofnod o ganolfannau creadigol ledled Cymru, ynghyd â throsolwg o’u rôl, eu heriau a’u hymgyrch i sicrhau effaith gymdeithasol ac economaidd. Mae’r adroddiad hwn yn olrhain canolfannau creadigol ledled Cymru, gan edrych yn gyntaf ar leoliad daearyddol a chrynodiad. Mae'n rhoi manylion am broffiliau canolfannau creadigol o ran model busnes, gwasanaethau, nifer yr aelodau ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd. Mae'r mapio hefyd yn dadansoddi'r mathau o effaith y mae canolfannau creadigol yn eu cael a sut maent yn cyd-fynd â'r Nodau Datblygu Cynaliadwy byd-eang. Mae’r dadansoddiad hwn o ganolfannau creadigol ledled Cymru (gwledig a dinesig) yn adeiladu ar waith blaenorol o fapio canolfannau creadigol yng Nghymru (2017-18).
Ar Lwybr Adferiad? Adroddiad Llawryddion Celfyddydol Cymru (Llywodraeth Cymru, 2022)
Roedd y prosiect hwn yn cynnwys creu arolwg ar gyfer Llawryddion Celfyddydol Cymru (CFW), dadansoddi data a pharatoi adroddiadau. Dadansoddodd yr adroddiad y newidiadau i fywydau gweithwyr llawrydd, edrychodd ar y rhagolygon presennol ac yn y dyfodol ar gyfer gweithwyr llawrydd, a gofynnodd pa gynnydd - os o gwbl - sydd wedi'i wneud i ail-gydbwyso'r sector diwylliannol wrth iddo symud ymlaen ar y ffordd i adfer o bandemig COVID-19. Contractiodd Llawryddion Celfyddydol Cymru dîm Economi Creadigol Prifysgol Caerdydd i gynnal yr arolwg a dadansoddi’r data.
CANOLFANNAU CREADIGOL: Cyfleoedd a heriau ar gyfer deialog ryngddiwylliannol (British Counil, 2019)
Roedd Connect for Creativity yn brosiect 18 mis dan arweiniad y British Council, ar y cyd ag ATÖLYE a Phrifysgol Abdullah Gül yn Nhwrci, BIOS yng Ngwlad Groeg a Nova Iskra yn Serbia. Nod y prosiect oedd ffurfio rhwydwaith o ganolfannau creadigol ledled Ewrop i feithrin partneriaethau archwilio creadigol a chydweithio sy'n cyfrannu at adeiladu cymdeithas sifil fwy cydlynol, agored a chysylltiedig. Fel rhan o’r prosiect hwn, cyfrannodd Canolfan i’r Economi Greadigol bapur ar ganolfannau creadigol fel galluogwyr a churaduron deialog ryngddiwylliannol.
Cynhaliwyd gwaith ymchwil trwy ddadansoddiad arolwg ar draws y pedair gwlad hyn gyda 98 o ganolfannau creadigol a phedwar gweithdy mewn mannau cydweithio (gan gynnwys 29 o arbenigwyr canolfannau creadigol). Mae’r papur hwn yn awgrymu fframwaith newydd ar gyfer deall deialog ryngddiwylliannol mewn canolfannau creadigol trwy eu priodoleddau gofodol a diwylliannol, yn ogystal â thrwy eu lefelau gweithgarwch.
Hyfforddiant Hwb Creadigol a ddarperir yng Ngwlad Thai (Y Cyngor Prydeinig, 2018)
Mae Cyfarwyddwr yr Economi Greadigol ym Mhrifysgol Caerdydd, Sara Pepper, wedi cynnal rhaglen hyfforddi ar gyfer y Cyngor Prydeinig yng Ngwlad Thai sy’n canolbwyntio ar ganolfannau creadigol. Canolbwyntiodd y rhaglen tri diwrnod ar greu rhwydweithiau, tyfu cymunedau a chynllunio digwyddiadau yn ogystal â rhoi canllawiau ar sut i greu mannau diddorol a modelau busnes effeithiol.
Gwerthusiad Gŵyl y Llais (Canolfan Mileniwm Cymru, comisiwn preifat, 2018)
Gŵyl celfyddydau perfformio rhyngwladol bob dwy flynedd yw Gŵyl y Llais Caerdydd - a gychwynnwyd yn 2016 - ym mhrifddinas Cymru sy'n dathlu'r llais yn ei holl ffurfiau. Wedi'i greu gan Ganolfan Mileniwm Cymru, mae'r digwyddiad yn cymryd lle o fewn sawl lleoliad blaenllaw celfyddydol a theatrau o amgylch Caerdydd.
Gwerthusodd tîm yr economi greadigol ŵyl 2018, gan gynnal arolygon cynulleidfa a chyfweliadau dwyieithog wyneb yn wyneb. Cafodd hyn ei gyfuno â chyfweliadau manwl gyda'r rhai a oedd yn bresennol (wedi'u ffilmio ar fideo), grŵp ffocws, dadansoddiad o ddata tocynnau ac arolwg ar-lein.
Mapio Economi Greadigol Caerdydd (British Council, 2017)
Mynd i’r afael â’r diffyg dadansoddiadau manwl o weithgarwch creadigol Caerdydd a data cyfredol ar siâp, cymeriad ac ehangder yr economi greadigol yng Nghaerdydd. Gwnaeth y gwaith ymchwil hwn olrhain cryfderau a gwendidau, a datblygu strategaethau â sylfaen gadarn ar gyfer cefnogi a datblygu'r sector. Mae pedwar maes a oedd yn dangos bod gan Gaerdydd gryfderau arbennig (hynny yw, swm cymharol y gweithgarwch yn hytrach nag ansawdd yr allbwn). Cerddoriaeth, Perfformio a Chelfyddydau Gweledol, Ffilm, Teledu, Fideo, Radio a Ffotograffiaeth, Dylunio: Cynnyrch, Graffeg a Ffasiwn a Chrefft. Yn y pedwar maes hwn, mae’r cyfrannau o gwmnïau a gweithwyr llawrydd yn uwch na chyfartaledd cyflogaeth y DU.
Golwg ar Ŵyl Gerddoriaeth Sŵn (Grŵp Ymchwil Gwyliau Prifysgol Caerdydd a Gŵyl Gerddoriaeth Sŵn, 2016)
Cydweithrediad rhwng Grŵp Ymchwil Gwyliau Prifysgol Caerdydd, a sefydlwyd gan y Ganolfan i’r Economi Greadigol, a Gŵyl Gerddoriaeth Sŵn. Roedd y gweithgareddau'n cynnwys: astudiaethau achos gan yr Ysgol Cerddoriaeth o deithiau perfformwyr yng ngŵyl Sŵn a dadansoddiad ansoddol o brofiad yr ŵyl yn seiliedig ar gyfweliadau wyneb yn wyneb; arolwg ymchwil feintiol ac ansoddol o'r bobl a fuodd yn yr ŵyl, gan ymchwilwyr o Ysgol Busnes Caerdydd a'r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio; Amgueddfa Cerddoriaeth Sŵn yn un o arcedau Fictoraidd Caerdydd, dan arweiniad Jacqui Mulville o'r Ysgol Hanes, Archaeoleg ac Astudiaethau Crefyddol. Roedd yr Amgueddfa Gerddoriaeth yn cysylltu â phobl greadigol a oedd yn gweithio yng Ngŵyl Sŵn. Cydweithiodd y grŵp hefyd yn llwyddiannus â StoryworksUK, a helpodd i gofnodi atgofion cerddoriaeth yn ystod penwythnos yr ŵyl.
Embedded Creatives (Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau, 2016)
Darn o waith ymchwil gan Dr Samuel Woodford oedd Accessing Cardiff’s Hidden Creative Economy, a ariannwyd gan Gronfa Cyfarfyddiadau Diwylliannol AHRC 2015. Mae'r gwaith ymchwil hwn yn archwilio syniadau am arferion gwaith, dyheadau, cyfleoedd addysg a hyfforddiant sydd gan “bobl greadigol sefydledig” rhanbarth Caerdydd h.y. y bobl hynny sy'n cyflawni swyddi a ddiffinnir gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) fel rhai creadigol ond sy'n gweithio mewn sefydliadau sydd â'u prif weithgareddau nad ydynt yn cael eu diffinio fel rhai creadigol gan y DCMS.
Dinasyddion Creadigol (rhaglen Cymunedau Cysylltiedig, 2010-2016)
Helpodd y prosiect ymchwil Dinasyddion Creadigol lywio ein ffordd o feddwl am Caerdydd Creadigol a’r Ganolfan i’r Economi Greadigol.
Dechreuodd mewn digwyddiad 'trafod syniadau' ym Mhrifysgol Birmingham yn hydref 2010, gan archwilio syniadau sy'n berthnasol i'r rhaglen Cymunedau Cysylltiedig, a lansiwyd yn ddiweddar gan gynghorau ariannu ymchwil y DU.
Daeth prosiect o’r enw, y Cyfryngau, Cymuned a'r Dinesydd Creadigol o’r digwyddiad trafod syniadau, a ofynnodd y cwestiwn ymchwil canlynol: 'sut mae dinasyddiaeth greadigol yn creu gwerth i gymunedau o fewn tirwedd cyfryngau newidiol; a sut y gellir dwysau, lledaenu a chynnal y trywydd gwerth hwn?'
Ar y pryd roedd Cadeirydd yr Economi Ddigidol ym Mhrifysgol Caerdydd, yr Athro Ian Hargreaves, yn arwain tîm o chwe phrifysgol: Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Birmingham, y Brifysgol Agored, y Coleg Celf Brenhinol, Prifysgol Dinas Birmingham ac UWE Bryste. Nodwyd safleoedd ymchwil yn Llundain, Birmingham, Bryste a de Cymru, wedi’u llunio o amgylch tair thema: newyddiaduraeth gymunedol, rhwydweithiau creadigol a chynllunio a dylunio cymunedol. Defnyddiwyd cymysgedd eang o dechnegau ymchwil, gan gynnwys arolygon a chyfweliadau, ond gyda ffocws arbennig ar syniadau am y cyfryngau a grëwyd ar y cyd, a chynhaliwyd digwyddiadau ac ymyriadau di-ri.
Gwersi o'r prosiect
- Yn yr economi greadigol, mae cydweithio yn hanfodol. Mae prosiectau cydweithio a chyd-greu rhwng ymchwilwyr a phartneriaid y tu allan i'r brifysgol yn feichus ond yn ychwanegu gwerth pan fyddwch chi'n gwneud pethau'n iawn. Cytundeb, pwrpas a rennir a chyd-ddealltwriaeth yw'r hyn sy’n rhoi symudiadau dinasyddiaeth a gynhyrchir yn greadigol eu newydd-deb, eu cyfreithlondeb a’u grym.
- Mae’r cyfryngau digidol yn hanfodol i ymyriadau cymunedol effeithiol, felly cofiwch eu dysgu a’u defnyddio. Ond peidiwch â bod ofn addasu’r cyfryngau digidol i'ch anghenion a'ch chwaeth eich hun, neu i roi'r gorau iddynt os mai dyna mae adborth defnyddwyr yn ei ddweud.
- Mae gan brifysgolion a chymunedau ran i'w chwarae. Mae prifysgolion yn bwysig yn yr economi greadigol oherwydd eu bod yn ffynonellau helaeth o wybodaeth, profiad ac egni. Ond mae gan gymunedau hefyd wybodaeth sydd hefyd yn hanfodol ar gyfer gwaith ymchwil llwyddiannus.
Darllenwch y llyfr The Creative Citizen Unbound: how social media and DIY culture contribute to democracy, communities and the creative economy (gol. Hargreaves I a Hartley J).
Mapio Bar a Chaffi Chapter (Canolfan Gelfyddydau Chapter, 2014)
Cynhaliwyd arolwg i gael dealltwriaeth gliriach o'r gwaith creadigol sy'n gysylltiedig â'r economi sy'n digwydd ym Mar a Chaffi Canolfan Gelfyddydau Chapter ac archwilio sut y gallai hyn lywio cynlluniau ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol yno. Cynhaliwyd wythnos o ymarfer mapio o’r Bar a’r Caffi yn y Ganolfan i ddadansoddi'r gweithgaredd sy'n gysylltiedig â'r economi greadigol a gynhelir yno, ac i ddeall yr amgylchedd a'i ddefnyddwyr yn well.