Caerdydd Creadigol
Lle i gynnal prosiectau ymchwil, arloesi ac ymgysylltu y mae mawr eu hangen ac sy’n canolbwyntio ar y diwydiannau creadigol yng Nghymru yw’r Ganolfan i’r Economi Greadigol ym Mhrifysgol Caerdydd. Wedi’i sefydlu yn 2014, roedd ffocws cychwynnol y Ganolfan ar adeiladu rhwydwaith, gan lansio rhwydwaith Caerdydd Creadigol yn 2015 i ymgysylltu â diwydiant ac annog cydweithredu ac arloesi ar draws sectorau.
Gwybodaeth am Caerdydd Creadigol
Nod Caerdydd Creadigol yw cyflwyno gweledigaeth o Gaerdydd fel prifddinas greadigol, cydweithredol a chysylltiedig.
Mae Caerdydd Creadigol yn gwneud hyn drwy wneud y canlynol:
- Dod â phobl o bob rhan o economi greadigol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd at ei gilydd i rannu syniadau, gwybodaeth, adnoddau ac arbenigedd.
- Hyrwyddo swyddi a chyfleoedd creadigol, annog ffyrdd newydd o weithio drwy bartneriaeth a chydweithio.
- Meithrin diwylliant o arloesedd, natur agored ac uchelgais.
- Cryfhau sector creadigol Caerdydd a hunaniaeth dinas greadigol, a chanfyddiad a chydnabyddiaeth Caerdydd fel 'dinas greadigol' ledled Cymru, y DU ac yn rhyngwladol.
- Cefnogi’r sector i adfer o bandemig COVID-19 ac adeiladu gwytnwch.
- Ymgorffori rôl sector creadigol y ddinas wrth gefnogi lles economaidd a chymdeithasol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Mae'r rhwydwaith yn agored i unrhyw un sy'n gweithio yn y diwydiannau creadigol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, neu sydd eisiau gweithio ynddynt.
Digwyddiadau ac ymgysylltu
Rydym yn trefnu digwyddiadau a gweithgareddau difyr a chynhwysol rheolaidd o dan frand Caerdydd Creadigol, wyneb yn wyneb ac yn ddigidol, i ehangu cysylltedd a meithrin partneriaethau cydweithredol ac arloesedd yn niwydiannau creadigol y ddinas a'r rhanbarth.
Mae'r rhain yn cynnwys ein digwyddiadau rhwydweithio bob mis ‘Paned i Ysbrydoli’, digwyddiadau dwywaith y flwyddyn gyda'r nos (haf a dros y Nadolig), digwyddiadau ar ffurf gweithdy 'Ystafell Ddosbarth Caerdydd Creadigol', a nifer o baneli a darlithoedd cyflogadwyedd ar gyfer myfyrwyr Addysg Uwch ac Addysg Bellach.
Gofod a seilwaith
Rydym am helpu i gynnwys creadigrwydd caled yng ngwead y ddinas, drwy sicrhau bod Caerdydd yn parhau i fod yn ddeniadol i bobl greadigol. Gwnawn hyn drwy gadw a buddsoddi yn y gymysgedd gywir o fannau gwaith diogel, hygyrch a chynhwysol, mannau cymunedol a chyfleusterau arbenigol a thechnegol a fydd yn ehangu twf y sector creadigol yn yr hirdymor.
Mae hyn yn cynnwys mapio a hyrwyddo'r ystod o fannau creadigol sydd ar gael yn y ddinas a'r rhanbarth. Rhagor o wybodaeth.
Ymgysylltu â myfyrwyr a chyflogadwyedd
Rydym yn ymgysylltu'n weithredol â phoblogaeth sylweddol myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, gan greu cyfleoedd ystyrlon i fyfyrwyr gael profiad o weithio yn y diwydiannau creadigol, datblygu sgiliau a chysylltiadau gwerthfawr a chael eu hannog a'u cefnogi i aros yng ngweithlu'r ddinas ar ôl graddio.
Rydym yn gwneud hyn trwy ddarparu ystod o gyfleoedd am leoliadau gwaith, gan gynnwys interniaethau ar y campws a rolau cynhyrchwyr dan hyfforddiant. Rydym hefyd yn cyflwyno digwyddiadau paneli Dyfodol Myfyrwyr ac amryw o ddarlithoedd a gweithdai cyflogadwyedd a sgiliau.
Gwella effaith a chyrhaeddiad
Nod Caerdydd Creadigol yw cynyddu cyrhaeddiad ac effaith twf sector creadigol Caerdydd ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a'r tu allan i'r ddinas gyfagos. Rydym am sicrhau bod pobl o gymunedau amrywiol ar draws y rhanbarth yn gallu manteisio ar gyfleoedd, gan gefnogi datblygiad economïau lleol ffyniannus sydd â chreadigrwydd wrth eu gwraidd.
I'r perwyl hwnnw, rydym wedi bod yn gweithio ar brosiect Canolfannau Clwstwr y Diwydiannau Creadigol, a sefydlodd dair canolfan beilot yng Nghasnewydd, Sir Fynwy a Rhondda Cynon Taf. Rhagor o wybodaeth.
Hwyluso arfer gorau
Ein nod yw defnyddio cysylltedd a dylanwad Caerdydd Creadigol i gael cyfleoedd tecach, mwy tryloyw a chynyddol er mwyn i artistiaid a gwneuthurwyr lleol gael gwaith wedi'i gomisiynu. Rydym yn archwilio cyfleoedd sy'n cael effaith gadarnhaol ar greu lleoedd a 'golwg a theimlad' Caerdydd fel prifddinas greadigol amrywiol a chynhwysol'.
Ym mis Hydref 2023, gwnaethom gefnogi dau artist newydd o Gaerdydd i gymryd rhan yn rhaglen Art School Plus yn Llundain. Yn haf 2023, comisiynwyd wyth artist o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd i ddylunio posteri a oedd yn cael eu harddangos mewn gwahanol leoliadau ar draws canol y ddinas. Rhagor o wybodaeth.
Rhagor o wybodaeth a chysylltu
Cewch ragor o wybodaeth am Caerdydd Creadigol drwy ymweld â'n gwefan. Gallwch hefyd gysylltu drwy ebostio creativecardiff@caerdydd.ac.uk.