Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan i'r Economi Greadigol

Rydym yn galluogi arloesi, yn cryfhau gwybodaeth ac yn ymgysylltu â diwydiant i feithrin ac ysgogi datblygiad cynaliadwy a theg yr economi greadigol.

Rydym yn magu dealltwriaeth o'r economi greadigol, yn cefnogi ei heffaith ac yn hyrwyddo ei datblygiad trwy waith ymchwil.

O fewn Canolfan yr Economi Greadigol, rydym yn canolbwyntio ar ddwy brif raglen waith ar hyn o bryd, Media Cymru (2022 - 2026) a Chaerdydd Creadigol (a sefydlwyd yn 2014). Dysgwch fwy am y rhaglenni hyn a phrosiectau eraill o'r gorffennol a'r presennol.

Mae ein tîm yn gweithio i alluogi arloesi, cryfhau gwybodaeth ac ymgysylltu â diwydiant trwy amrywiaeth o raglenni, prosiectau ac ymchwil. Darganfod mwy am y tîm.

Newyddion diweddaraf

A montage of 4 individual headshots of Professor Norman Doe, Professor Sophie Gilliat-Ray, Professor David James, Professor Justin Lewis

Cymrodyr newydd yr Academi Brydeinig

22 Gorffennaf 2024

Pedwar academydd o'r Brifysgol wedi'u hethol yn Gymrodyr yr Academi Brydeinig.

Pobl yn cerdded o gwmpas stiwdio

Treialwyd Canolfannau Clwstwr y Diwydiannau Creadigol yng Nghasnewydd, Sir Fynwy a Rhondda Cynon Taf

10 Gorffennaf 2024

Treialwyd Canolfannau Clwstwr y Diwydiannau Creadigol yng Nghasnewydd, Sir Fynwy a Rhondda Cynon Taf

Dyn yn dal llyfr nodiadau a meicroffon

Bron i draean o newyddiadurwyr Cymru yn ystyried gadael y sector

22 Mai 2024

Sicrwydd y swydd, cyflog, straen a gorludded yw prif resymau’r rhai sy'n ystyried gadael a newid gyrfa

Right quote

Pan fyddaf yn siarad am y diwydiannau creadigol, rwyf o hyd yn dweud ni ddylen fod yn siarad amdano o ran ei werth economaidd yn unig. Rydych chi'n elwa o fwy na hynny, sef gwerth diwylliannol a chymdeithasol. Rwy'n parchu'r pwyslais y mae Caerdydd yn ei roi ar hynny oherwydd mae’n ddatganiad o'r math o gymdeithas sifil rydych chi eisiau byw ynddi. Mae Caerdydd bellach yn glwstwr sylweddol iawn yn y diwydiannau creadigol. Wrth gynnwys Prifysgolion mewn arloesi - mae ymchwil gymhwysol prifysgolion yn gweithio gyda BBaChau i ysgogi arloesi, a’r gallu o addysg uwch i gynnull clwstwr a sgwrsio a’i gilydd, cydweithredu a’i gilydd, cystadlu mewn rhai ffyrdd ond cydweithredu yn y ffordd yr ydym yn sbarduno’r stori yn ei flaen, dyma rywbeth sydd yn hollol newydd. Mae potensial helaeth yma yng Nghaerdydd - dyma ddechrau arni.

Syr Peter Bazalgette Cyd-gadeirydd Cyngor y Diwydiannau Creadigol