Ewch i’r prif gynnwys

Teithiau i Tsieina

Bob blwyddyn, mewn cydweithrediad â’n partner, Prifysgol Xiamen, mae Sefydliad Confucius Caerdydd yn trefnu teithiau i Tsieina ar gyfer eu myfyrwyr.

Dros y blynyddoedd, rydyn ni wedi trefnu teithiau llwyddiannus ar gyfer ein dysgwyr sy’n oedolion a myfyrwyr prifysgol, ynghyd â disgyblion ysgol drwy ein partneriaid Ystafell Ddosbarth Confucius. Pythefnos o hyd yw’r teithiau fel arfer, gydag amser wedi’i rannu rhwng Xiamen ac un ddinas fawr arall. Mae'r daith yn gyfle i deithio, i ddysgu ac i ymarfer yr iaith yn uniongyrchol, a chael profiad o fywyd ar gampws Prifysgol.

Mae'n ofynnol i fyfyrwyr dalu costau eu fisa a phris teithiau awyr rhyngwladol. Ar ôl cyrraedd Tsieina, bydd Prifysgol Xiamen a Sefydliad Confucius yn talu am yr holl gostau. Cysylltwch â ni i gael gwybodaeth am deithiau sydd yn yr arfaeth a sut i gymryd rhan.

Teithiau blaenorol i Tsieina:

Taith Tsieina Sefydliad Confucius Caerdydd 2019

Ym mis Ebrill 2019, aeth pymtheg o fyfyrwyr ar Daith Tsieina Sefydliad Confucius. Treuliodd y grŵp ddeng niwrnod yn byw ar Gampws Prifysgol Xiamen, yn dysgu Tsieinëeg ac yn cael profiad uniongyrchol o fywyd fel myfyriwr yn Tsieina.

Yn dilyn eu hamser yn Xiamen, buon nhw yn Shanghai am dri diwrnod yn mwynhau’r golygfeydd ac yn ymarfer siarad Tsieinëeg.
Gallwch wylio fideo o’u taith isod.

Cardiff Confucius Institute China Trip 2019

Taith Tsieina Sefydliad Confucius Caerdydd 2018

Cardiff Confucius Institute China Trip 2018

Taith Tsieina Sefydliad Confucius Caerdydd 2017

Cardiff Confucius Institute China Trip 2017