Profion Tsieinëeg
Mae Hanyu Shuiping Kaoshi (HSK) a’r Prawf Tsieinëeg i Bobl Ifanc (YCT) yn arholiadau safonol rhyngwladol sy'n asesu galluoedd pobl nad ydynt yn siaradwyr Tsieinëeg brodorol i ddefnyddio Tsieinëeg Mandarin yn eu bywydau dyddiol, academaidd a phroffesiynol.
Mae Sefydliad Confucius Caerdydd yn ganolfan brofi gymeradwy ar gyfer HSK a’r YCT.
Hanyu Shuiping Kaoshi (HSK)
Yr HSK yw’r prawf hyfedredd Tsieinëeg swyddogol a gaiff ei gydnabod gan bob sefydliad a phrifysgol Tsieineaidd. Argymhellir y prawf ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno astudio Tsieinëeg yn y brifysgol, ynghyd ag unrhyw un sy’n ceisio cymhwyster cydnabyddedig mewn Tsieinëeg Mandarin.
Mae'r HSK yn cynnwys chwe lefel, o HSK 1 (dechreuwr) i HSK 6 (uwch).
Writing Test | Vocabulary | Speaking Test |
---|---|---|
HSK (Lefel VI) | Dros 5,000 | HSKK (Lefel Uwch) |
HSK (Lefel V) | 2500 | HSKK (Lefel Uwch) |
HSK (Lefel IV) | 1200 | HSKK (Lefel Canolradd) |
HSK (Lefel III) | 600 | HSKK (Lefel Canolradd) |
HSK (Lefel II) | 300 | HSKK (Lefel Dysgwr) |
HSK (Lefel I) | 150 | HSKK (Lefel Dysgwr) |
I gael rhagor o wybodaeth am sut i gofrestru, dyddiadau'r profion, a ffioedd, ewch i'n tudalen Cymwysterau Iaith Rhyngwladol ar dudalen yr Ysgol Ieithoedd Modern. I gael gwybodaeth gyffredinol ewch i'r wefan Profion Tsieinëeg.
Os oes gennych ymholiad mwy penodol, cysylltwch â ni.
Y Prawf Tsieinëeg i Bobl Ifanc (YCT)
Mae'r YCT wedi'i ddylunio'n benodol i asesu gallu myfyrwyr tramor i ddefnyddio Tsieinëeg o ddydd i ddydd ac yn eu bywydau academaidd. Mae'n cynnwys prawf ysgrifenedig a phrawf llafar, sydd ar wahân i'w gilydd. Mae'r prawf ysgrifennu wedi'i rannu'n bedair lefel, ac mae gan y prawf llafar ddwy lefel.
Os oes grŵp o fwy na 10 o ymgeiswyr yn sefyll arholiad, mae modd i ni hwyluso YCT yn eich ysgol, neu fel arall mae modd i ni groesawu grwpiau bach o ddisgyblion i wneud yr YCT ar y campws.
Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth am sut i gofrestru, dyddiadau'r profion, a chostau.
Sefydliad Confucius Caerdydd
Ymholiadau cyffredinol
Exam dates, fees and details of how to register for our HSK qualifications.