Ewch i’r prif gynnwys

Ysgoloriaethau Prifysgol Xiamen

Dysgwch am ysgoloriaethau amrywiol Prifysgol Xiamen i gefnogi astudio Tsieinëeg.

Mae Prifysgol Xiamen (XMU) yn bartner strategol i Brifysgol Caerdydd a hi yw prifysgol bartner Tsieineaidd Sefydliad Confucius Caerdydd.

Mae Sefydliad Confucius Caerdydd yn trefnu gwersylloedd astudio yn XMU yn rheolaidd ar gyfer ei fyfyrwyr Mae'r gwersyll astudio fel arfer yn para am ddeg diwrnod ac yn cynnig cyfle i fyfyrwyr wella eu sgiliau Tsieineaidd, archwilio Tsieina, a mwynhau bywyd campws mewn prifysgol yn Tsieina.

Mae'n ofynnol i fyfyrwyr dalu costau eu fisa a phris teithiau awyr rhyngwladol. Ar ôl cyrraedd Tsieina, bydd XMU a Sefydliad Confucius yn talu am yr holl gostau. Cysylltwch â ni i gael gwybodaeth am deithiau sydd yn yr arfaeth a sut i gymryd rhan.

Mae XMU ei hun yn cynnig ysgoloriaethau amrywiol i fyfyrwyr rhyngwladol sy'n dymuno astudio ar gyfer graddau israddedig, meistr neu ddoethuriaeth. Mae rhagor o wybodaeth ar gael isod, ac ar wefan Derbyniadau Prifysgol Xiamen.

Mae'r ysgoloriaethau rhannol hyn yn cefnogi astudiaeth lefel Baglor, Meistr a Doethuriaeth mewn amrywiaeth o feysydd pwnc.

Cymhwysedd:

  • Rhaid i ymgeiswyr fod yn ddinasyddion nad ydynt yn Tsieineaidd a rhaid iddynt fod mewn iechyd da.
  • Cefndir addysgol a therfynau oedran (ar 1 Medi):
  • Rhaid i ymgeiswyr ar gyfer rhaglenni Baglor feddu ar ddiploma ysgol uwchradd neu’n uwch a bod o dan 25 oed.
  • Rhaid i ymgeiswyr am raglenni Meistr feddu ar radd baglor neu'n uwch a bod o dan 40 oed.
  • Rhaid i ymgeiswyr am raglenni Doethuriaeth feddu ar radd meistr neu'n uwch a bod o dan 45 oed.

Gweithdrefnau gwneud cais:

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Derbyniadau Prifysgol Xiamen.

Mae'r ysgoloriaethau hyn yn cefnogi astudiaeth tymor byr o Tsieinëeg.

Cymhwysedd:

  • Dinasyddion dramor nad ydynt yn Tsieineaidd.
  • Mewn cyflwr corfforol a meddyliol da, a gyda pherfformiad ac ymddygiad academaidd da.
  • Gyda diddordeb cryf mewn dysgu Tsieinëeg; ffefrir ymgeiswyr sydd wedi ymrwymo i addysg Tsieinëeg a gwaith cysylltiedig.
  • Rhwng 16 a 35 oed.

Cyfnodau astudio:

  • Tsieinëeg (blwyddyn): Gydag isafswm sgôr o 210 mewn prawf HSK (lefel 3).
  • Tsieinëeg (un semester): bydd angen sgôr prawf HSK.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Derbyniadau Prifysgol Xiamen.

Cysylltu â ni

Sefydliad Confucius Caerdydd

Ymholiadau cyffredinol