Digwyddiadau arbennig ar gyfer eich ysgol
Gwnewch gais i gynnal diwrnod, gweithdy neu sesiwn flasu ar Dsieina yn eich ysgol, lle gall plant wneud gweithgareddau sydd wedi'u teilwra'n arbennig ac sy'n canolbwyntio ar ddiwylliant Tsieina a/neu’r iaith Tsieinëeg.
Mae ein hopsiynau ar gyfer digwyddiadau mewn ysgolion yn amrywio o 'Ddiwrnod Tsieina' llawn lle gall disgyblion ymgolli yn y wlad, ei hiaith a'i diwylliant, i weithdai annibynnol a sesiynau i gael blas ar yr iaith.
- gallwch drefnu Diwrnodau Tsieina a Hanner Diwrnodau Tsieina o amgylch gwŷl neu ddigwyddiad Tsieineaidd, thema, neu gallwn wneud cyflwyniad cyffredinol
- gallwn deilwra’r gweithdai i ddiwallu anghenion eich disgyblion. Gallwch gynnal sesiynau unigol neu yn rhan o ddiwrnodau Gweithgaredd neu Ddiwylliant eich ysgol eich hun
- yn ein Diwrnodau Blasu, byddwn yn cyflwyno disgyblion i hanfodion Tsieinëeg Mandarin boed hynny ar lafar, yn ysgrifenedig neu’r ddau
- efallai yr hoffech chi hefyd gynnal gwasanaeth, sgwrs neu ddosbarth arbennig ar bwnc penodol yn eich ysgol
Gweithgareddau
Ymhlith yr enghreifftiau o weithgareddau o ddigwyddiadau Tsieina blaenorol mewn ysgolion mae:
- iaith (Mandarin)
- ymarfer corff e.e. Tai Chi a Baduanjin Qigong
- coginio
- gwaith llaw e.e. torri papur a phlygu
- caligraffeg
- dawnsio
- ymarferion boreol i blant
- caneuon a cherddoriaeth
- paentio wynebau a phaentio masgiau
- mythau, Chwedlau ac Adrodd Storïau
- sgyrsiau ar themâu penodol e.e. diwylliant ieuenctid, gwahaniaethau daearyddol
Mae digwyddiadau'n seiliedig ar sgiliau presennol y tiwtoriaid ac yn amodol ar eu hargaeledd.Gofynnir i ysgolion sydd 60-90 munud y tu allan i ganol dinas Caerdydd ar drafnidiaeth gyhoeddus dalu costau teithio i diwtoriaid.Yn anffodus, ni allwn gynnig y digwyddiadau hyn i ysgolion sy’n fwy na 90 munud y tu allan i ganol dinas Caerdydd.
Sylwch ar y canlynol
Gwnewch gais i gynnal digwyddiad yn eich ysgol