Cyrsiau athrawon
Oes gennych chi ddiddordeb mewn dod ag iaith a diwylliant Tsieina i'ch dosbarthiadau, cefnogi eich disgyblion gyda'u dysgu, neu ddysgu am yr iaith drosoch chi'ch hun?
Cwrs iaith a diwylliant Tsieina i athrawon
Mae ein cwrs Iaith a Diwylliant Tsieina i Athrawon wedi'i gynllunio gyda gweithwyr addysgu proffesiynol prysur mewn golwg. Erbyn diwedd y rhaglen, bydd gan y rhai sy’n cymryd rhan nid yn unig wybodaeth sylfaenol gadarn o Tsieinëeg Mandarin, ond hefyd bortffolio o adnoddau a gwersi i'w haddysgu eu hunain.
Y cwrs
Bydd y cwrs am ddim ar-lein 28 wythnos hwn yn cael ei gynnal am awr yr wythnos gan diwtor o Sefydliad Confucius Caerdydd. Bydd 22 o'r wythnosau hynny yn canolbwyntio ar ddysgu Mandarin sylfaenol, gyda'r bwriad o gefnogi eich disgyblion gyda’u dysgu nawr neu yn y dyfodol neu ddysgu am yr iaith ar gyfer eich datblygiad eich hun.
Bydd y dosbarthiadau iaith yn cael eu britho â chwe gwers sy'n canolbwyntio ar y diwylliant, lle byddwch chi’n dysgu am elfen benodol o Tsieina megis iechyd a lles, bwyd a gwyliau allweddol. Ar ôl pob un o'r sesiynau hyn, cewch fynediad i gyflwyniadau PowerPoint ac adnoddau/gweithgareddau sydd wedi cael eu paratoi gan ein tiwtoriaid, y gallwch chi eu defnyddio fel sesiynau annibynnol gyda'ch dosbarthiadau.
Sut mae’n gweithio
Mae’r cwrs wedi’i rannu’n dri cham, gan ganiatáu i athrawon ymuno ar lefel sy’n addas iddyn nhw.
Cwrs | Dydd / Amser | Dyddiadau dechrau / gorffen | Wythnosau |
---|---|---|---|
Sesiwn Blasu | Dydd Mawrth 19:00 - 20:00 | 26 Tachwedd i 17 Rhagfyr 2024 | 4 wythnos |
Rhan I | Dydd lau 19:00 - 20:00 | 30 Ionawr i 10 Ebrill 2025 | 10 wythnos (12 awr mewn) |
Rhan II | I'w gadarnhau | Ebrill/Mai i Gorffennaf 2025 (I'w gadarnhau) | 12 wythnos |
Symud ymlaen
Ar ôl i chi gwblhau'r cwrs, cewch gyfle i symud ymlaen i gwrs DYSGU Tsieinëeg i Ddechreuwyr II Prifysgol Caerdydd ym mis Medi 2025. Byddai hyn yn cael ei ariannu'n llawn gan Sefydliad Confucius Caerdydd, ac yn caniatáu ichi weithio tuag at fodiwl lefel 3 neu 4 deg credyd mewn Tsieinëeg Mandarin.
Cofrestru
Os ydych chi'n athro ysgol gynradd neu uwchradd yng Nghymru sydd â diddordeb mewn cofrestru ar gyfer y cwrs hwn, llenwch y ffurflen hon.
Darllenwch straeon tri athro a'u teithiau mewn Tsieinëeg Mandarin.