Ewch i’r prif gynnwys

Tsieinëeg mewn ysgolion

Sefydlwyd Prosiect Ysgolion Cymru Tsieina i hyrwyddo'r iaith a diwylliant Tsieineaidd mewn ysgolion ledled Cymru drwy'r rhwydwaith Dosbarthiadau Confucius.

Mae'r prosiect yn cynnwys tri Sefydliad Confucius Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, Prifysgol Bangor a Phrifysgol y Drindod Dewi Sant. Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio gyda dros ddeugain o ysgolion sydd wedi ymgysylltu â ni wyneb-yn-wyneb, ar-lein neu yn y ddwy ffordd.

Rydym yn cynnig amrywiaeth o raglenni Tsieinëeg i ysgolion cynradd ac uwchradd gan gynnwys:

  • Cyrsiau TGAU a Safon Uwch
  • Rhaglenni sy'n arwain at y Prawf Tsieinëeg i Bobl Ifanc (YCT) mewn ysgolion cynradd a’r Prawf Hyfedredd Tsieinëeg (HSK) mewn ysgolion uwchradd
  • Dosbarthiadau sy'n arwain at gymhwyster llwybr iaith CBAC
  • Cyrsiau iaith a diwylliant

Gall ein tiwtoriaid Tsieinëeg hefyd weithio gydag ysgolion i gynnig gweithgareddau allgyrsiol drwy glybiau ar ôl ysgol a chlybiau amser cinio, yn bersonol ac ar-lein.

Cofrestrwch i gael ein cylchlythyr chwarterol drwy ebost.

Ystafelloedd Dosbarth Confucius

Gall ysgolion sydd â diddordeb a hanes o gynnig Tsieinëeg wneud cais i ddod yn Ystafelloedd Dosbarth Confucius.

Fel Ystafell Ddosbarth Confucius, mae'r ysgol yn gymwys i gael arian gan y Ganolfan Addysg Iaith a Chydweithredu (CLEC) i'w roi tuag at ariannu gwersi iaith a diwylliant Tsieineaidd. Mae pob Ystafell Ddosbarth Confucius hefyd yn cael tiwtor CLEC benodol i gynnig gwersi Tsieinëeg yn yr ysgol ac ysgolion eraill yn ei rhwydwaith.

Ar hyn o bryd mae 16 o Ystafelloedd Dosbarth Confucius ledled Cymru. Mae saith ohonynt yn cael eu rheoli gan Sefydliad Confucius Caerdydd, pump ohonynt gan Sefydliad Confucius Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, a phedwar ohonynt gan Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor. Gyda’i gilydd, mae'r Ystafelloedd Dosbarth Confucius hyn yn rhan o brosiect Ysgolion Cymru Tsieina ac yn cwrdd ddwywaith y flwyddyn i gael hyfforddiant a rhannu arferion gorau.
Mae ein Hystafelloedd Dosbarth wedi eu lleoli yn yr ysgolion canlynol ledled Cymru:

  • Ysgol Esgob Morgan
  • Our Lady's RC Primary School
  • Holyhead High School
  • Friars High School
  • Ysgol Gyfun Cwm Rhymni
  • Ysgol Aberconwy
  • Sully Primary School
  • St Cenydd Comprehensive
  • Millbrook Primary School
  • Lansdowne Primary School
  • Eirias High School
  • Ysgol Penglais
  • Ysgol Gyfun Bryn Tawe
  • Llandovery College
  • Dyffryn Taf School
  • Crickhowell High School

Cysylltu

Victoria Ucele

Victoria Ucele

Languages Advisor - Languages for All

Email
ucelev@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5602