Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Mae Sefydliad Confucius Caerdydd yn bodoli i ddarparu addysg iaith o ansawdd uchel ac i gryfhau cysylltiadau rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Xiamen er budd y ddwy gymuned ac, yn ehangach, y ddwy genedl.

Lansiwyd y Sefydliad yn 2008 a dathlodd ei ben-blwydd yn 15 oed ym mis Gorffennaf 2023. Mae'n bartneriaeth rhwng Prifysgol Xiamen a Phrifysgol Caerdydd. Fe'i cefnogir gan Sefydliad Addysg Ryngwladol Tsieina.

Mae bron 500 o Sefydliadau Confucius ledled y byd, ac mae pob un yn gwasanaethu ei gymuned mewn ffordd wahanol. Mae Sefydliad Confucius Caerdydd yn canolbwyntio ar addysgu iaith ac fe'i cefnogir gan yr ystod eang o arbenigedd sydd ar gael yn yr Ysgol Ieithoedd Modern.

Gwyliwch y fersiwn Gymraeg ar fideo ein 15fed Pen-blwydd

Gwyliwch Fideo Pen-blwydd Sefydliad Confucius Caerdydd yn 15 oed ar YouTube (Cymraeg)

Gwyliwch y fersiwn Mandarin ar fideo ein 15fed Pen-blwydd

Gwyliwch Fideo Pen-blwydd Sefydliad Confucius Caerdydd yn 15 oed ar YouTube (Mandarin)

Rhagor o wybodaeth am ein:

Gan adeiladu ar yr enw da a'r arbenigedd a ddatblygwyd ers ein sefydlu, ein hamcanion yw:

  • Parhau i gefnogi Strategaeth Ryngwladol Prifysgol Caerdydd, yn enwedig o ran y bartneriaeth strategol â Phrifysgol Xiamen ac ymweliadau rhyngwladol myfyrwyr a staff Prifysgol Caerdydd.
  • Ehangu ein portffolio o gyfleoedd dysgu proffesiynol ar gyfer athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd, a darpariaeth iaith ar gyfer disgyblion Cymru trwy weithio gyda Llywodraeth Cymru a phedwar consortiwm rhanbarthol addysg Cymru.
  • Parhau i ymgysylltu â chymunedau lleol a darparu digwyddiadau diwylliannol o ansawdd uchel.

Mae Bwrdd Cynghorwyr Sefydliad Confucius Caerdydd yn cynnwys aelodau o brifysgolion Xiamen a Chaerdydd. Mae ein Bwrdd presennol yn cynnwys:

  • Yr Athro Rudolf K Allemann, Dirprwy Is-Ganghellor Rhyngwladol a Recriwtio Myfyrwyr
  • Yr Athro Shi Dalin, Is-lywydd Prifysgol Xiamen
  • Ms Chen Zhiwei (Sally), Deon, Coleg Addysg Rhyngwladol Tsieineaidd, Prifysgol Xiamen
  • Ms Lisa Yu, Cyfarwyddwr Gweithredol Swyddfa Materion Campws Tramor a'r Swyddfa Cydweithrediad a Chyfnewid Rhyngwladol, Prifysgol Xiamen
  • Dr Catherine Chabert, Cyfarwyddwr gweithredol y Sefydliad Confucius
  • Yr Athro Guoxiang Xia , Cyfarwyddwr academaidd y Sefydliad Confucius

Mae Bwrdd y Cynghorwyr yn cwrdd bob blwyddyn i adolygu cynnydd y sefydliad a chynlluniau i’w ddatblygu.

BlwyddynDyfarniad
2008 Yr Athro Fu Siyi yn ennill Gwobr Rhagoriaeth Perfformiad Unigol Sefydliad Confucius (Hanban)
2013 Sefydliad Confucius y Flwyddyn gan Brifysgol Xiamen
2016 Dr Catherine Chabert yn ennill Gwobr Rhagoriaeth Perfformiad Unigol Sefydliad Confucius (Hanban-Pencadlys y De)
2019 Sefydliad Confucius y Flwyddyn gan Brifysgol Xiamen
2020 Celia Kelly Myriam Bourhis yn ennill y Wobr Fwyaf Creadigol yn 19eg Gystadleuaeth Pontio Tsieinëeg ledled y DU
2021 Ross Goldstone yn cipio’r drydedd Wobr yn 20fed Gystadleuaeth Pontio Tsieinëeg ledled y DU ac ef yw  Llysgennad 2021 ym maes Diwylliant Tsieineaidd a Hyrwyddo Twristiaeth yn y DU
2021 He Ling yn ennill Gwobr Gyntaf Cystadleuaeth Addysgu Mandarineg yng Nghymru (y DU)
2021 Tian Linyan yn cipio’r Ail Wobr yng Nghystadleuaeth Addysgu Mandarineg yng Nghymru (y DU)

Yn yr Ysgol Ieithoedd Modern, rydym yn gallu gweithio gydag adrannau academaidd a phroffesiynol ledled Prifysgol Caerdydd a’u cefnogi.

Rydym yn gweithio gyda llawer o sefydliadau allanol hefyd, gan gynnwys:

Cysylltwch â ni