Y Gwir. Anrh. Carwyn Jones AC
Cafodd Carwyn Jones
ei eni yn 1967 a chafodd ei addysg yn Ysgol Gyfun Brynteg, Pen-y-bont ar Ogwr,
ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth ac yn Ysbytai'r Frawdlys, Llundain. Cyn ei
ethol, roedd yn fargyfreithiwr mewn siambrau yn Abertawe yn arbenigo yng
Nghyfraith Troseddau, Teulu a Niwed Personol, ac yn diwtor proffesiynol yn
Ysgol Gyfraith Prifysgol Cymru Caerdydd. Bu'n Gynghorydd ar Gyngor Bwrdeistref
Pen-y-bont ar Ogwr ac yn Gadeirydd y Grŵp Llafur ar y Cyngor. Mae hefyd yn
aelod o Amnest Ryngwladol, UNSAIN, Uno'r Undeb a Chymdeithas y Ffabiaid. Mae
wedi bod yn aelod o'r Blaid Lafur ers 1987 ac fe chwaraeodd ran amlwg yn
ymgyrch 'Ie Dros Gymru'.
Cafodd Carwyn Jones ei benodi'n Is-ysgrifennydd ym mis Mawrth 2000 a disodlodd
Christine Gwyther fel yr Ysgrifennydd Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig ar
drothwy Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru ym mis Gorffennaf 2000.
Ym mis Mawrth 2002 ychwanegwyd rôl y Trefnydd at ei bortffolio Materion
Gwledig. Ym mis Mehefin 2002 cafodd ei benodi'n Weinidog dros Lywodraeth
Agored. Ym mis Mai 2003 cafodd ei benodi'n Weinidog dros yr Amgylchedd,
Cynllunio a Chefn Gwlad. Ym mis Mai 2007 fe gafodd ei apwyntio fel Gweinidog ar
gyfer Addysg, Diwylliant a'r Iaith Gymraeg ac ers mis Gorffennaf 2007 fe gafodd
ei apwyntio fel Cwnsler Cyffredinol ac Arweinydd y Tŷ. Yn dilyn Rhodri Morgan
AC yn ymddeol yn fis Rhagfyr 2009, fe gafodd ei apwyntio fel Prif Weinidog
Cymru. Fe'i penodwyd i'r
Cyfrin Gyngor ar y 9fed o Fehefin 2010.