Galwad am bapurau
Nod SIOE yw cynnig awyrgylch anffurfiol i drafod ymchwil ym maes opto-electroneg lled-ddargludyddion. Cynhelir y gynhadledd ym Mhrifysgol Caerdydd ar 4-6 Ebrill 2023, a chynhelir cinio'r gynhadledd yng Nghastell Caerdydd ar 5 Ebrill.
Gwahoddir cyfraniadau ar y pynciau canlynol:
- tyfu a chreu, gan gynnwys deunyddiau a dyfeisiau dotiau cwantwm.
- celloedd solar / ffotofoltäeg
- opto-electroneg is-goch canol lled-ddargludyddion
- effeithiau micro-geudodau a bylchau bandiau ffotonig ym maes opto-electroneg lled-ddargludyddion
- deunyddiau a dyfeisiau galiwm nitrad
- theori ac efelychiadau rhifyddol ym maes opto-electroneg lled-ddargludyddion.
- synwyryddion optegol, modyliadau, chwyddwyr a switsys
- cylchedau integredig cwbl optegol ac opto-electronig
Gofynnir am gyflwyniadau ar ffurf papurau llafar (15 munud gan gynnwys trafodaeth) a phapurau poster.
Crynodebau
Dylai crynodebau fod yn ddalen sengl o A4, wedi'u hanfon ar ffurf dogfen PDF neu Word. Cofiwch gynnwys rhestr o awduron, cysylltiadau ac ebost cyfatebol ar gyfer yr awdur.
Anfonwch eich crynodeb drwy ebost at Kate James: future-cshub@caerdydd.ac.uk
Tudalen siaradwyr
Rhestr i ddilyn o’r siaradwyr sydd wedi’u gwahodd.
Dyddiad cau
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno: 6 Chwefror 2023.