Ewch i’r prif gynnwys

Rhaglen y gynhadledd

Bydd manylion rhaglen y gynhadledd a'r llyfr crynodebau ar gael ym mis Chwefror 2025.

Siaradwyr Allweddol

Simon Gilbert (Pennaeth Cynllunio Cyngor Caerdydd)

Teitl: Datblygiad Dinas: Myfyrdodau Pennaeth Cynllunio Caerdydd

Dyddiad: Dydd Mawrth 4ydd Mawrth 2025

Yn y brif araith hon, bydd Simon Gilbert, Pennaeth Cynllunio Cyngor Caerdydd, yn defnyddio ei brofiad helaeth i gynnig persbectif cynhwysfawr ar daith ddatblygu Caerdydd. Gan ddechrau gydag cyflwyniad i gyd-destun unigryw’r ddinas, bydd yn myfyrio ar ei llwybr datblygu trefol: llwyddiannau’r gorffennol, heriau’r presennol a dyheadau’r dyfodol. Bydd hefyd yn gosod profiad Caerdydd o fewn fframwaith ehangach y proffesiwn cynllunio yng Nghymru a’r DU, gan dynnu sylw at dueddiadau a dulliau newydd sy’n datblygu.

Bydd trafodaeth onest ar risgiau a heriau yn cael ei hategu gan fewnwelediadau i gyfleoedd i wella, gan hyrwyddo arloesi mewn datblygiad dinas. Wrth gloi gyda myfyrdodau ar bwysigrwydd dulliau cydweithredol ac arloesol, bydd sylwadau Simon yn gosod y llwyfan ar gyfer cynhadledd fywiog, gan ysgogi cyfranogwyr mewn deialog deinamig am gynllunio, cyfraith a hawliau eiddo.

Yr Athro Antonia Layard (Athro Cyfraith ym Mhrifysgol Rhydychen)

Teitl: Ar gyfer Gofod Cyhoeddus

Amser: Dydd Iau 6ed Mawrth 2025

“Mae gofod cyhoeddus wastad yn cael ei greu. Nid yw byth wedi’i orffen; nid yw byth ar gau.” Gan dynnu ar waith Doreen Massey For Space, mae’r sgwrs hon yn ystyried sut rydym yn meddwl am ofod cyhoeddus, yn enwedig o safbwynt cyfreithiol a daearyddol. Mae’n cymryd dull eang at ddiffiniad: yn cynnwys sgwariau cyhoeddus a phriffyrdd, bariau a llwybrau troed.

Mae deall gofod cyhoeddus fel dynodiad ac fel gweithgarwch yn dangos tensiwn: mae mynediad i ofod cyhoeddus yn rhad ac am ddim ond yn ddrud i’w gynnal. Mae’r costau’n cael eu cyfiawnhau, ond pwy ddylai dalu? Er mwyn darparu gofod cyhoeddus – boed yn lwyd, yn wyrdd neu’n las – mae angen inni ddeall a chyfleu pam mae gofod cyhoeddus yn bwysig, sut y dylid ei ddarparu, ac yn hollbwysig, sut y dylid ei gynnal. Mae’r rhain yn benderfyniadau gweithredol, perthynol, parhaus.

I lywio gwneud penderfyniadau ar ofod cyhoeddus, mae angen inni fod yn glir pam ei fod yn bwysig. Mae’r cyfiawnhadau’n cynnwys cyfranogiad democrataidd, cynhwysiad cymdeithasol, hunaniaeth ddiwylliannol a bywiogrwydd economaidd, yn ogystal ag iechyd a chynaliadwyedd ecolegol. Mwy hyderus yn ein resymeg, gallwn ddeall a chyfiawnhau fframweithiau cyfreithiol a rheolau, gan osod rhwymedigaethau ar rai perchnogion tir, gan gyfyngu ar eu gallu i wneud fel y dymunant gyda’r tir drwy ddiogelu llwybrau troed, tir mynediad, safleoedd bywyd gwyllt lleol, comin neu feysydd gwyrdd pentref.

Gallwn weld sut y gall gwerthoedd normadol mewn gofod cyhoeddus wrthdaro (neu beidio) â’r rhagdybiaethau normadol sy’n gysylltiedig â pherchnogaeth (yn dibynnu ar sut rydym yn diffinio perchnogaeth). Gallwn hefyd ddeall sut mae bariau, clybiau a chaffis yn darparu gofod i fod mewn cyhoedd (er y gall rhai gofodau apelio at rai grwpiau mwy nag eraill) a pham mae rhwydweithiau symudedd yn hollbwysig i fynediad i ofod cyhoeddus.

Trafodaeth Banel

Dyddiad: Dydd Gwener 7fed Mawrth 2025

Fel llawer o wledydd, mae gan Gymru brinder difrifol o dai fforddiadwy. Mae hyn yn cyfrannu at ddigartrefedd ac iechyd meddwl gwael y rhai na all gael mynediad i lety diogel. Er mwyn mynd i’r afael â hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno targed o ddarparu 20,000 o gartrefi carbon isel i’w rhentu yn y sector cymdeithasol ar gyfer tymor presennol y llywodraeth.

I gyrraedd y targed hwn bydd angen cyfuniad o droi tai presennol yn dai fforddiadwy, cyfraniadau gan ddatblygwyr preifat (fel math o ddal gwerth tir), datblygiadau newydd gan gymdeithasau tai dielw, yn ogystal â darparu tai fforddiadwy yn uniongyrchol gan asiantaethau’r wladwriaeth.

Fodd bynnag, nid yw amodau’r farchnad, polisi a rheoliadau yn effeithio ar yr un modd ar yr endidau gwahanol hyn, gan greu amrywiaeth gymhleth o gymhellion a phwysau. Mae felly angen deall y cymhlethdod hwn ac ystyried ffyrdd dychmygus o ddod â sector darparu rhanedig ynghyd i sicrhau bod endidau llywodraeth, y farchnad a’r trydydd sector yn gweithio gyda’i gilydd. Nod y banel yw archwilio sut mae tai fforddiadwy yn cael eu darparu yng Nghymru ac archwilio sut y gellir goresgyn rhai o’r heriau dyfnach.

Panelwyr

Emma Williams - Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru

Mae Emma Williams yn arwain yr adran Tai ac Adfywio o fewn Llywodraeth Cymru i gyflawni blaenoriaethau Gweinidogol gan sicrhau bod gan bawb yng Nghymru lety o ansawdd uchel, fforddiadwy ac addas i’w alw’n gartref.

Cyn hyn roedd Emma’n Ddirprwy Gyfarwyddwr o fewn Tai ac Adfywio, lle roedd ganddi gyfrifoldeb am bolisïau gyda’r nod o sicrhau bod gan bob dinesydd yng Nghymru fynediad i gartref diogel, o ansawdd a chymorth i fyw’n annibynnol.

Helen White – Prif Weithredwr Taff Housing

Mae Taff Housing yn datblygu lleoedd gyda phobl, nid elw, mewn golwg, gan adeiladu cartrefi a chymunedau lle gall pobl ffynnu. Mae Taff yn berchen ar ac yn rheoli dros 1,500 o gartrefi ledled Caerdydd, gan roi lle i dros 4,000 o bobl alw’n gartref. Ymunodd Helen â Taff yn Awst 2019.

Wedi dechrau ei gyrfa dai yn gweithio mewn cyfranogiad tenantiaid, mae Helen yn parhau i fod yn angerddol am sicrhau bod anghenion tenantiaid a chymunedau wrth wraidd y ffordd y caiff gwasanaethau eu cynllunio a’u darparu.

Matt Dicks - Cyfarwyddwr Cenedlaethol Sefydliad Tai Siartredig Cymru

Mae Matt Dicks yn gyfarwyddwr cenedlaethol CIH Cymru ac yn arwain y tîm yng Nghymru. Cymerodd Matt ei rôl bresennol gydag amrywiaeth o wybodaeth am dirwedd polisi Cymru ar ôl 17 mlynedd o weithio fel cyfathrebwr uwch yng nghanol bywyd dinesig a gwleidyddol Cymru.

Ymunodd ag y Cynulliad Cenedlaethol Cymru (senedd Cymru bellach) fel pennaeth newyddion. Trawsnewidiodd weithrediad cyfryngau’r Senedd yn swyddogaeth aml-lwyfan, aml-gyfryngau fodern.

Mark Harris - Ymgynghorydd Cynllunio a Pholisi ar gyfer Cymru yn Ffederasiwn Adeiladwyr Tai

Mae Mark Harris yn Ymgynghorydd Cynllunio a Pholisi ar gyfer Cymru yn y Ffederasiwn Adeiladwyr Tai. Ymunodd Mark yn 2014 ar ôl treulio’r rhan fwyaf o’i yrfa’n gweithio yng Nghymru fel cynllunydd yn y sector cyhoeddus a phreifat ac i ddatblygwr tai. Mae rôl Mark yn cynnwys cynrychioli aelodau’r Ffederasiwn ledled Cymru, gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i helpu i ddylanwadu ar bolisïau tai ac yn rheolaidd yn eistedd ar ystod o grwpiau gwaith Llywodraeth Cymru.

Mae hefyd yn gyfrifol am adolygu cynlluniau datblygu lleol a pharatoi sylwadau ysgrifenedig, ymddangos mewn Gwrandawiadau Archwiliad ac ymgysylltu’n barhaus ag Awdurdodau Cynllunio Lleol ar sail dystiolaeth sy’n cefnogi eu cynlluniau.