Cyflwyno crynodeb
Bydd y galwad am grynodebau ar agor o ddydd Llun 5 Awst 2024 tan ddydd Llun 30 Medi 2024.
Ar hyn o bryd, rydym yn gwahodd cynigion i drefnu sesiynau arbennig (neu drafodaeth bwrdd crwn neu unrhyw fformat digwyddiad amgen, creadigol y byddech yn hoffi ei drefnu) yng nghynhadledd PLPR2025.
I gyflwyno eich cynnig, llenwch y ffurflen atodedig a’i hanfon trwy e-bost at Gadeirydd y Pwyllgor Trefnu Cynhadledd, Dr Sina Shahab (ShahabS@cardiff.ac.uk).
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cynigion trafodaeth bwrdd crwn/sesiwn arbennig yw 15 Gorffennaf 2024.
Galwad Am Sesiynau Arbennig a Byrddau Crwn
19eg Gynhadledd Flynyddol y Gymdeithas Academaidd Ryngwladol ar Gynllunio, y Gyfraith, a Hawliau Eiddo (PLPR) - Galwad Am Sesiynau Arbennig a Byrddau Crwn.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.