Cynhadledd ôl-raddedig ryngddisgyblaethol y celfyddydau, y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol ar gyfer ymchwilwyr ôl-raddedig, a nhw hefyd sy’n ei harwain.
Mae Cynhadledd Chwalu Ffiniau 2023 yn gynhadledd ar gyfer y celfyddydau, y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol. Mae’r digwyddiad blynyddol hwn ar gyfer myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig a nhw hefyd sy’n ei gynnal. Cynhelir cynhadledd eleni wyneb yn wyneb.
Dyddiad ac Amser: Dydd Mercher 14 Mehefin 2023, 09:00 – 17:00
Lleoliad: Yr Academi Ddoethurol, Prifysgol Caerdydd, 1-3 Maes yr Amgueddfa, Cathays, Caerdydd, CF10 3RL
Rydym yn gwahodd holl ymchwilwyr ôl-raddedig o brifysgolion GW4 (Bryste, Caerfaddon, Caerdydd a Chaerwysg), Prifysgol Metropolitan Caerdydd, a Phrifysgol De Cymru i ddod at ei gilydd a rhannu eu hymchwil mewn amgylchedd hamddenol a chydweithredol. Mae croeso i holl ddisgyblaethau’r celfyddydau, y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol ac rydym yn croesawu’n arbennig gyflwyniadau rhyngddisgyblaethol!
Rydym yn gwahodd crynodebau ar ffurf cyflwyniadau papur a phoster. Fe'ch gwahoddir i archwilio'r syniadau a'r hanes y tu ôl i'r pynciau amrywiol a rhyngddisgyblaethol sy'n anelu at lunio dyfodol mwy disglair i'r cenedlaethau diweddarach. Gall y newidiadau hyn ddod o bobman, ym mhob maes ac yn aml yn rhyngddisgyblaethol; a chredwn fod gan bob maes ymchwil syniadau a dehongliadau newydd i'w cyfrannu.
Mae'r gynhadledd yn croesawu pawb p'un a ydych am gyflwyno'ch syniadau neu ddim ond am rwydweithio gyda myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig eraill. Nid oes yn rhaid i chi gyflwyno papurau (cyflwyniadau) yn unig yn yr arddangosfa, rydym hefyd yn croesawu cyflwyniadau poster ar gyfer y syniadau sy’n cael eu mynegi orau yn weledol. Bydd gwobrau yn cael eu dyfarnu am y sgwrs a'r poster gorau.