Ewch i’r prif gynnwys

Cyfrifiadura gweledol

Os yw deallusrwydd artiffisial yn galluogi cyfrifiaduron i feddwl, mae cyfrifiadura gweledol yn eu galluogi i weld, arsylwi a throsglwyddo gwybodaeth i gymwysiadau yn y byd go iawn.

Rydym wedi ein hamgylchynu gan fwy o ddelweddau nag erioed o'r blaen - o gamerâu yn y stryd i'r rhai mewn ffatrïoedd sy'n rheoli ansawdd, i'r delweddau ffonau clyfar sy'n cael eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol. Hefyd, ceir delweddu meddygol, cerbydau tywys awtomataidd, systemau taflegrau hunan-dargedu, rhaglenni amaeth, adeiladu, adloniant, dadansoddi chwaraeon ac ati.

Er ei bod yn gymharol syml i gasglu'r data crai - ac mae delweddau'n cael eu dal, eu storio a'u prosesu yn eu biliynau bob blwyddyn - mae'r cam dilynol o ddadansoddi'r delweddau a gwneud synnwyr ohonynt yn llawer mwy heriol oherwydd bod data bywyd go iawn yn tueddu i fod yn swnllyd, yn dameidiog, ac yn gymhleth.  Mae hyn yn rhywbeth y mae'r grŵp ymchwil cyfrifiadura gweledol yn canolbwyntio arno.

Mae ein gwaith ym maes cyfrifiadura gweledol yn archwilio offer dadansoddi gweledol i helpu gwyddonwyr ac ymchwilwyr i brosesu data mawr, aml-ddimensiynol yn well. Mae hyn yn effeithio ar y gwaith sy’n cael ei wneud ym meysydd peirianneg, gwyddorau’r ddaear, gofal iechyd, bioleg, meddygaeth, seicoleg, pensaernïaeth, cerddoriaeth gyfrifiadurol a rheoli cwantwm.

Ar hyn o bryd, mae ein gwaith yn canolbwyntio ar gyfrifiadura gweledol sy’n canolbwyntio ar bobl, ac mae ein timau’n gweithio ar draws meysydd golwg cyfrifiadurol a graffeg gyfrifiadurol, cyfrifiadura geometrig a data amlgyfrwng.

Un o themâu pwysig ein gwaith yw ystyried prosesau mewnbynnu, disgrifio a golygu solidau, arwynebau a chromliniau. Caiff y rhain eu cynrychioli mewn modd dadansoddol ar ffurf modelau ‘cynllunio gyda chymorth cyfrifiadur’, yn ogystal â ffurfiau annibynnol megis rhwyllau a chymylau pwyntiau.

Ymhlith yr agweddau eraill ar ein gwaith mae dadansoddi, defnyddio a chreu data sefydlog megis delweddau, rhwyllau arwyneb a sganiau dyfnder 3D, yn ogystal â data sy’n amrywio gydag amser megis fideos a sganiau 4D o wrthrychau sy’n newid eu ffurf.

Ein grwpiau ymchwil

Golwg cyfrifiadurol

Rydym yn dadansoddi delweddau a data cysylltiedig er mwyn deall eu cynnwys, eu trin, a gwneud penderfyniadau.

Cyfrifiadura amlgyfrwng

Ein ffocws yw datblygu technolegau amlgyfrwng sy'n gwella profiad a pherfformiad dynol.

Technolegau gofal iechyd

Caffael a dadansoddi data aml-raddfa, aml-baramedrig ar gyfer gofal iechyd.

Cyfrifiadura geometrig a graffeg

Mae ein grŵp yn archwilio dylunio, dal, dadansoddi ac optimeiddio modelau a data 3D, a'u cymwysiadau mewn graffeg gyfrifiadurol a pharthau eraill.

Cyfrifiadura delwedd feddygol

We are working to make medical imaging more powerful, allowing healthcare practitioners to provide better care to patients through diagnosing illnesses more accurately and planning treatments more effectively.

Arweinydd ymchwil

Yr Athro Paul Rosin

Yr Athro Paul Rosin

Professor of Computer Vision

Email
rosinpl@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5585