Deallusrwydd artiffisial a dadansoddeg data
Mae bodau dynol eisiau ac angen deall yn well faint o ddata sy’n cael ei gynhyrchu gan ein cymdeithas ddigidol – a beth yw ei botensial.
Mae a wnelo deallusrwydd artiffisial â sut y gall cyfrifiaduron gyflawni tasgau yr oedd bodau dynol yn unig yn gallu eu cyflawni. Mae dadansoddeg data’n canolbwyntio ar sut i gipio, dadansoddi, modelu a phrosesu symiau mawr o ddata o sawl ffynhonnell wahanol er mwyn i ni allu nodi patrymau a defnyddio’r hyn rydym yn ei ddysgu. Rydym wedi creu lle yma ar gyfer gwneud ymchwil ar sail chwilfrydedd, wrth i ni ystyried atebion posibl i heriau uchelgeisiol a phellgyrhaeddol a fydd, yn ei dro ac yn y dyfodol, yn sicrhau manteision ym maes gofal iechyd, ym maes diogelwch, mewn diwydiannau gwasanaethu ac mewn llawer o sectorau eraill. Yn ogystal â hynny, gall busnesau a diwydiannau’n fyd-eang elwa ar sawl ffordd o’i defnyddio.
Yn ein labordai ymchwil, rydym yn canolbwyntio’n bennaf ar y canlynol:
- cynrychioli gwybodaeth a rhesymu (ystyried sut y gall systemau cyfrifiadurol ddeall a defnyddio gwybodaeth i ddatrys problemau cymhleth yn y byd go iawn)
- ymresymu cyfrifiadol (canolbwyntio ar sut mae ymresymiadau’n cael eu creu a’u cymharu er mwyn datrys problemau ar gyfrifiaduron yn effeithiol – pontio rhesymu dynol a rhesymu awtomataidd)
- prosesu iaith naturiol (deall yn well sut y gallai cyfrifiaduron ddelio ag iaith)
- dadansoddi data a dysgu peirianyddol (ystyried sut rydym yn cipio gwybodaeth am y byd y gall cyfrifiaduron ei phrosesu, ei deall a’i chymhwyso i broblemau)
Ein grwpiau ymchwil
Pennaeth yr Adran
Rydym yn cynnal amrywiaeth o gyfleusterau gan gynnwys labordai pwrpasol ar gyfer realiti estynedig, cyfrifiadura grid a chwmwl, technoleg ffactorau dynol, diogelwch a phreifatrwydd, modelu solet a chyfrifiadura gweledol.