Ewch i’r prif gynnwys

Meysydd ymchwil

Ein gweledigaeth yw gwneud ymchwil sylfaenol sy'n ein galluogi i fynd i'r afael â heriau go iawn yn y byd. Rhennir yr ymchwil yn bedwar maes blaenoriaeth sy'n adlewyrchu tueddiadau critigol sy'n dod i'r amlwg.

Artificial Intelligence and Robotics

Deallusrwydd artiffisial a dadansoddeg data

Mae ein hymchwil yn ymchwilio i’r ffordd y gall cyfrifiaduron gyflawni tasgau roedd ond pobl yn gallu eu gwneud cyn hyn, yn ogystal â’r atebion posibl i heriau uchelgeisiol a phellgyrhaeddol.

Image of a world map on a digital screen

Seiberddiogelwch a phreifatrwydd

Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar gyfuno gwyddorau data/dadansoddeg a dulliau DA ac yn ystyried beth gall trin seiberddiogelwch dynol a thechnegol ei ddweud wrthym am risgiau seiber, cudd-wybodaeth am fygythiadau, canfod ymosodiadau ac ymwybyddiaeth sefyllfaol.

Cyfrifiadura sy'n seiliedig ar bobl

Mae ein hymchwil yn ymchwilio i’r ffordd y gall cyfrifiaduron gefnogi ein bywydau bob dydd yn well, a sut y gallai systemau sy'n dod i'r amlwg effeithio ar unigolion, cymunedau a’r gymdeithas yn gyffredinol.

Computer vision

Cyfrifiadura gweledol

Mae ein hymchwil yn ystyried y delweddau sy'n cael eu dal bob dydd a sut y gall cyfrifiaduron eu dadansoddi'n effeithiol a dod o hyd i’r ystyr fydd yn ychwanegu gwerth ac yn gwneud gwahaniaeth.