Ymchwil
Ystyriwyd bod 96% o'n hymchwil yn 'arwain y byd' neu’n 'ardderchog yn rhyngwladol' yn asesiad y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil yn 2021.
Mae ein hymchwil yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol ac mae ein gwaith yn mynd i'r afael â heriau cymdeithasol a busnes y byd go iawn. Mae Cyfrifiadureg wedi gweld twf cyflym a sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wrth i bobl ddefnyddio technoleg yn eu bywydau bob dydd a'r heriau a'r cyfleoedd sy'n dod i'r amlwg yn sgîl hyn.
Yn ddiweddar rydym wedi:
- cymryd rhan mewn prosiect a ariannodd y Cyngor Ymchwil Feddygol i ddatgelu 'olion bysedd' newydd clefyd yr ymennydd
- cydweithio ag un o'n partneriaid yn y diwydiant, Airbus, i greu ffordd newydd o ganfod a lladd seiberymosodiadau yn awtomatig ar liniaduron, cyfrifiaduron a dyfeisiau clyfar
- gweithio gydag amgueddfeydd ledled Ewrop (gan gynnwys yr Amgueddfa Hanes Natur yn Llundain) i greu proses ddigideiddio i gasglu gwybodaeth ffisegol o sbesimenau bregus mewn amgueddfeydd. Bydd gwyddonwyr yn gallu defnyddio hyn wrth iddynt fodelu organebau'r gorffennol, y presennol a'r dyfodol (wrth iddynt weithio ar fioamrywiaeth, rheoli clefydau a newid yn yr hinsawdd).
Mae ein tîm staff sy’n tyfu a’n myfyrwyr yn rhan hanfodol o'n llwyddiant. Maent wedi'u lleoli yn ein cyfleusterau newydd trawiadol o'r radd flaenaf (sy'n ganolog i ganolfan arloesi gwerth miliynau o bunnoedd Caerdydd) gyda mynediad at galedwedd a meddalwedd flaengar.
Meysydd ymchwil
Mae ein gweithgarwch ymchwil wedi’i drefnu yn dri maes blaenoriaeth sy'n canolbwyntio ar dueddiadau sy'n dod i'r amlwg yn ein disgyblaeth sy'n datblygu'n gyflym:
Effaith amlddisgyblaethol
Mae ein gwybodaeth a'n harbenigedd yn cael eu cymhwyso mewn ffyrdd arloesol er mwyn helpu i yrru'r agenda ymchwil yn ei blaen ac i helpu ein partneriaid mewn diwydiant a’r sector cyhoeddus i ddatrys problemau. Mae ein gwaith yn cael effaith ar nifer o feysydd amrywiol:
- Gofal iechyd (systemau cofnodion cleifion a delweddu gwybodaeth)
- amddiffyn
- yr amgylchedd (rheoli bioamrywiaeth a systemau gwybodaeth daearofodol)
- telathrebu (dylunio rhwydweithiau cyfathrebu a sefydliadau rhithiol)
- dylunio peirianneg (yn enwedig adeiladu siapiau solet am yn ôl)
- cyfrifiadura perfformiad uchel a grid (prosesu gwasgaredig, rheoli gwybodaeth a delweddu ymgolli)
Rhagor o wybodaeth
Cysylltu â ni
Rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau MPhil neu PhD a sut i fod yn rhan o Ysgol ymchwil sy’n gryf, yn ddynamig ac yn llwyddiannus yn rhyngwladol.