Mae tîm o ymchwilwyr o'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg yn dod ag arbenigwyr o ddisgyblaethau amrywiol at ei gilydd i drafod y posibilrwydd o gymhwyso deallusrwydd artiffisial mewn amgueddfeydd ac archifau.
Yn ei flwyddyn olaf gweithiodd Joseph Liu gydag athrawon o Gaerdydd i ddatblygu meddalwedd a allai newid y ffordd y mae dysgwyr awtistig yn cyfathrebu yn yr ystafell ddosbarth.